Mae’n debyg bod fandaliaid wedi peryglu tref Aberteifi drwy ddifrodi offer hanfodol sy’n atal llifogydd.

Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), cafodd camerâu cylch-cyfyng sy’n monitro llifddorau afon Mwldan eu dwyn ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf.

Mae’r camerâu yn galluogi i staff gadw golwg ar lif yr afon, achos pe na bai hynny’n digwydd, gallai llifogydd difrifol effeithio ar y dref mewn tywydd garw.

Dywed Gareth Richards, Arweinydd Tîm Perfformiad Asedau Cyfoeth Naturiol Cymru, yn pwysleisio pa mor hanfodol yw’r system.

“Dw i ddim yn credu bod yr unigolyn neu unigolion a wnaeth hyn yn sylweddoli eu bod nhw’n rhoi’r dref mewn perygl,” meddai.

“Mae Cynllun Lliniaru Llifogydd Mwldan, heb os nac oni bai, wedi arbed y dref rhag llifogydd difrifol dros y blynyddoedd.

“Er bod Cynllun Lliniaru Llifogydd Mwldan mewn cyflwr da ac yn barod i gael ei weithredu ar unwaith pe bai angen, mae’n hanfodol ein bod ni’n gallu ei fonitro’n gyson.

“Pe bai problem yn codi tra bod y cynllun llifogydd yn ei le a fod gennym ni ddim ffordd o fonitro, gallai llifogydd ddinistrio rhannau o’r dref yn yr amser y mae’n ei gymryd i ddatrys y broblem.”

Mae camerâu newydd bellach wedi eu gosod yn lle’r rhai a gafodd eu dwyn, ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i roi gwybod i Heddlu Dyfed Powys, gan ddyfynnu’r cyfeirnod trosedd DPP/5601/24/11/2021/02/C.