Mae golygydd papur y Daily Post wedi sicrhau darllenwyr bod darpariaeth Gymraeg y papur, ar ffurf Yr Herald Cymraeg, yn ddiogel.
Fe wnaeth colofnwyr Yr Herald Cymraeg, gan gynnwys yr awduron Bethan Gwanas ac Angharad Tomos, fynegi pryderon ynglŷn â dyfodol y cyhoeddiad, sy’n ymddangos ym mhapur newydd y gogledd bob dydd Mercher.
Wedi ei sefydlu yn 1855, roedd yn arfer bod yn bapur newydd ynddo’i hun, ac mae’n un o’r cyhoeddiadau Cymraeg hynaf sy’n parhau i gael ei argraffu.
Ond ers dechrau’r unfed ganrif ar hugain, mae wedi gorfod dibynnu ar bapur y Daily Post i oroesi, a bellach dim ond tudalen unwaith yr wythnos o fewn y papur hwnnw ydyw.
‘Gwerthfawrogi ein hiaith a’i hanes’
Dywed golygydd y papur, Dion Jones, eu bod nhw am barhau i gynnig y ddarpariaeth honno.
“Mae gan Yr Herald Cymraeg etifeddiaeth hir o dros 160 mlynedd, ac ers 2005 mae’r Daily Post wedi bod yn falch i’w gynnwys fel atodiad yn wythnosol,” meddai wrth Nation.Cymru.
“Er bod ystyriaethau masnachol yn golygu nad yw’n gallu cael yr un modfeddi â’r gorffennol, mae ein brwdfrydedd yn parhau i fod yn gryf i gadw’r traddodiad yn fyw.
“Mae traean o’n staff llawn amser ni yn siaradwyr Cymraeg angerddol, rydyn ni’n gwerthfawrogi ein hiaith a’i hanes ac yn gwerthfawrogi rôl Yr Herald Cymraeg yn ei chadw yn fyw ac yn iach.”
‘Ddim yn malio llawer’
Yr wythnos hon, fe wnaeth yr awdures Bethan Gwanas, sy’n cyfrannu colofn i’r Herald Cymraeg ers dros 20 mlynedd, awgrymu nad oedd perchnogion y Daily Post, Reach plc, ddim yn poeni am y ddarpariaeth.
Dywed yr awdures Bethan Gwanas, sydd yn cyfrannu colofnau ers dros 20 mlynedd i’r cyhoeddiad, fod gweld y papur yn mynd yn atodiad i’r Daily Post “yn sioc.”
“Ond wedyn caewyd y swyddfa yng Nghaernarfon ac mi gollodd y golygydd ei swydd,” meddai.
“A rŵan, dim ond un golofn sydd ynddo ar y tro. Mae’r criw presennol, sy’n newid bob dau funud, yn gwneud eu gorau dan amgylchiadau anodd.
“Dydi Reach plc yn amlwg ddim yn malio llawer am y cynnwys Cymraeg.”
Fe wnaeth y colofnwyr benderfynu cynnal diwrnod gweithredu ddoe (dydd Mercher, Ionawr 12) i roi pwysau ar Reach i ddangos mwy o barch at y Gymraeg – darllenwch fwy isod.