Mae colofnwyr cyhoeddiad hirsefydlog wedi datgan eu pryder ynglŷn â’i ddyfodol.

Cafodd Yr Herald Cymraeg ei sefydlu fel papur newydd yn 1855, ac mae’n un o’r cyhoeddiadau Cymraeg hynaf sy’n parhau i gael ei argraffu.

Ond yn dilyn ansicrwydd ariannol i’r diwydiant, mae wedi gorfod dibynnu ar y Daily Post i oroesi ers dechrau’r unfed ganrif ar hugain.

Yn dilyn hynny, cafodd swyddfa’r papur yng Nghaernarfon ei chau ac fe gollodd rhai eu swyddi.

Bellach, dim ond tudalen bob dydd Mercher ym mhapur newydd y gogledd yw’r Herald, ac mae’r tri chyfrannydd wedi galw ar Reach plc, y cwmni sy’n rhedeg y Daily Post, i wneud mwy i amddiffyn dyfodol y ddarpariaeth Gymraeg wythnosol.

‘Ddim yn malio llawer’

Dywed yr awdures Bethan Gwanas, sydd yn cyfrannu colofnau ers dros 20 mlynedd i’r cyhoeddiad, fod gweld y papur yn mynd yn atodiad i’r Daily Post “yn sioc.”

“Ond wedyn caewyd y swyddfa yng Nghaernarfon ac mi gollodd y golygydd ei swydd,” meddai.

“A rŵan, dim ond un golofn sydd ynddo ar y tro. Mae’r criw presennol, sy’n newid bob dau funud, yn gwneud eu gorau dan amgylchiadau anodd.

“Dydi Reach plc yn amlwg ddim yn malio llawer am y cynnwys Cymraeg.”

Mae’r awdures Angharad Tomos hefyd wedi bod yn cyfrannu i’r papur newydd ers bron i 30 mlynedd ac wedi gweld dirywiad mawr ers iddi ddechrau gwneud hynny.

“Roedd yn bapur safonol wythnosol Cymraeg bryd hynny efo’i olygydd ei hun ac yn cadw’r traddodiad o swyddfa yng Nghaernarfon,” meddai.

“Bellach, mae’r dudalen yn cael ei oddef dan berchnogaeth Cwmni Reach plc, a dim ond bob tair wythnos maen nhw eisiau colofn gen i – dim ond colofnau y dair ohonom ydyw’r papur bellach.”

Mae’r trydydd colofnydd, Bethan Jones sy’n cyfrannu ers 2002, yn dweud nad rhesymau ariannol oedd y tu ôl i’r dirywiad.

“Gwnaeth Reach plc elw cyn treth llynedd o £25.7m, ond ni all fforddio buddsoddi yn y papur. £25-£40 bob tair wythnos yw ein tâl am dudalen lawn,” meddai.

Gweithredu

Mae’r colofnwyr wedi penderfynu cynnal diwrnod gweithredu heddiw (dydd Mercher, Ionawr 12) i roi pwysau ar Reach i ddangos mwy o barch at y Gymraeg.

Maen nhw’n dweud bod mwy o gefnogaeth i’r Daily Post ar ddyddiau Mercher, oherwydd y ddarpariaeth Gymraeg sy’n cael ei gynnig drwy’r Herald.

Yng nghanol y pandemig y llynedd, bu’r tair yn cyfrannu colofnau yn ddi-dâl i’r Herald am eu bod yn awyddus i weld ei barhad.

Mae’r Archdderwydd Myrddin ap Dafydd yn un sydd wedi dangos ei gefnogaeth i gadw’r ddarpariaeth yn fyw, ac wedi cynnig y syniad o gynnwys tudalen ddyddiol o newyddion Cymraeg, gyda geirfa i ddysgwyr.

Fe nododd y byddai hynny yn dangos parch at y gynulleidfa Gymraeg helaeth sy’n prynu’r papur ac yn hwyluso’r pontio ieithyddol i’r rhai sy’n dysgu Cymraeg.