Mae gyrrwr beic modur mewn cyflwr difrifol wael ar ôl damwain yn Sir Ddinbych ddoe (dydd Llun, 3 Ionawr).
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad un cerbyd ychydig cyn 15:10 yn y prynhawn ar yr A525 ar fwlch Nant y Garth ger Llysfasi.
Cafodd gyrrwr y beic modur – dyn yn ei 20au – ei gludo mewn hofrennydd i Ysbyty Prifysgol Brenhinol Stoke gydag anafiadau difrifol.
Galwodd Martin Done o Uned Plismona Ffyrdd Heddlu Gogledd Cymru am dystion i’r digwyddiad.
“Rydyn ni’n awyddus i siarad ag unrhyw un a allai fod wedi gweld y gyrrwr beic modur yn teithio yn yr ardal cyn y gwrthdrawiad, neu unrhyw un sydd â lluniau dash cam, i gysylltu â ni cyn gynted â phosibl i gynorthwyo gyda’r ymchwiliad,” meddai.
Gall llygad-dystion gysylltu â’r heddlu drwy sgwrs fyw ar-lein neu drwy ffonio 101, gan ddyfynnu’r cyfeirnod B001217.