Mae cynlluniau i ddymchwel adeilad hanesyddol ym Mangor i wneud lle i fflatiau “anferthol” wedi cael eu gwrthod.

Yn dilyn cyfarwyddyd swyddogion, fe wnaeth Pwyllgor Cynllunio Cyngor Gwynedd wrthod y cynnig ar gyfer dymchwel Tŷ Blenheim, yr adeilad drws nesaf i’r orsaf drenau ar Ffordd Caergybi.

Yn ôl y swyddogion, doedd dim tystiolaeth bod angen fflatiau rhwng un a dwy ystafell wely yn y ddinas, oherwydd bod cynlluniau eraill i adeiladu 177 uned eisoes ar y gweill.

Gyda bwriad i wneud saith o’r unedau ar Ffordd Caergybi yn rhai fforddiadwy, byddai 40 o lefydd parcio yn cael eu darparu yn rhan o’r cynlluniau gan gwmni datblygu Quatrefoil.

Cyflenwi tai

Roedd asiant y datblygwyr, David Fitzsimon, yn bresennol yng nghyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ddoe (dydd Llun, 13 Rhagfyr).

Dywedodd y byddai’r cynlluniau’n cael gwared ar adeilad adfeiliedig “sydd ddim yn creu argraff gyntaf dda i ymwelwyr sy’n cyrraedd yr orsaf drenau.”

Gan honni bod gan swyddogion ddim problem gyda’r dyluniad, fe soniodd Fitzsimmons am “broblem dybiedig ynghylch cyflenwad tai,” sydd yn seiliedig ar “dargedau tai amherthnasol a darfodedig.”

“Mae fy nghleientiaid yn berchen ar y safle Jewson yn y ddinas, sydd efo caniatâd ar gyfer 70 fflat,” meddai.

“Ond mae hynny’n annhebygol o ddigwydd gan fod yr ymchwil marchnad mwyaf diweddar yn awgrymu y dylid adeiladu cymysgedd o dai teras a fflatiau ar gyfer y safle.

“Byddai cymysgedd fel hynny yn haneru’r nifer o gartrefi sy’n cael eu darparu, a byddai safle o’r fath yn wahanol i’r un o’ch blaenau chi heddiw.”

Dywedodd y byddai gwrthod y cynlluniau yn debygol o gynyddu prisiau tai oherwydd bwlch cynyddol rhwng cyflenwad a galw.

Gwrthwynebiad

Roedd y cynghorwyr lleol yn annog aelodau i ddilyn cyngor swyddogion, gyda’r Cynghorydd Mair Rowlands yn disgrifio’r cynlluniau fel rhai “allan o gymeriad” ac “anghydnaws,” gan godi pryderon am orddatblygu a chynnydd mewn traffig.

Ychwanegodd y Cynghorydd Catrin Wager bod y cynlluniau ddim yn cyfateb i’r angen yn lleol, gan gydnabod gwrthwynebiad Cymdeithas Ddinesig Bangor i’r cynlluniau.

Mae Tŷ Blenheim wedi dioddef oherwydd ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ddiweddar, ac mae Catrin Wager yn credu bod angen gwneud mwy i adfer yr adeilad presennol.

“Bydden i’n croesawu’r adeilad yma’n cael ei ddefnyddio unwaith eto, ond ddim dyma yw’r datblygiad cywir,” meddai.

Tŷ Blenheim

Roedd cynghorydd arall o Fangor, Huw Wyn Jones, yn dweud bod y lluniau “ddim yn dangos yn iawn pa mor ormesol fyddai’r adeilad newydd.”

“Maen nhw eisiau adeiladu’r adeilad anferthol yma, a dw i ddim yn credu bod cyfiawnhad i hynny,” meddai.

Cafodd y cynlluniau eu gwrthod yn unfrydol.