Mae rhaglen gyllido Cyngor Ceredigion wedi gorfod cael ei gostwng o tua £6m oherwydd oedi mewn rhai mentrau.

Er hynny, mae cynghorwyr wedi cael eu sicrhau bod dim un o’r mentrau hyn am gael eu canslo’n llwyr.

Fe wnaeth yr aelod cabinet ar gyfer gwasanaethau cyllid, y Cynghorydd Gareth Lloyd (Annibynnol), ddiweddaru gweddill y cabinet ynglŷn â’r rhaglen gyllid ar gyfer 2021/22 ddydd Mawrth (7 Rhagfyr).

Clywodd yr aelodau bod gostyngiad o £6.019 miliwn i gyd, gyda chyllid yn cael ei ohirio i fentrau fel y prosiect amddiffyn arfordirol gwerth £2.9 miliwn a gorsaf trosglwyddo gwastraff Penrhos gwerth £1 miliwn.

Hefyd yn dioddef toriadau roedd y cynllun gwerth £809,000 i leihau maint dosbarthiadau babanod, datblygiad tai Hafan y Waun gwerth £500,000, a Chylch Caron, sydd werth £252,000.

‘Gohirio, nid canslo’

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Lloyd er bod y “cyllid wedi cael ei ohirio cyn belled ein bod ni yn y cwestiwn, does dim un o’r prosiectau wedi cael eu canslo.”

Roedd y Cynghorydd Dafydd Edwards (Annibynnol) ymysg y rhai oedd yn mynegi siom ynghylch yr oedi, yn enwedig wrth drafod y prosiect amddiffyn ger Aberaeron, gan ddweud ei fod yn cymryd “yr amser mwyaf posib” yn hytrach na’r lleiaf posib, ac roedd yn gobeithio y byddai’r gwaith yn ailddechrau erbyn y gwanwyn.

Prosiectau newydd

Er bod toriadau i rai prosiectau, cafodd nifer o rai newydd eu cymeradwyo, gyda’r rhaglen gyllid newydd werth £26.484 miliwn i gyd.

Roedd mentrau newydd yn cynnwys mesurau ynni cartrefi cynnes, £517,000 ar gyfer darpariaeth gofal plant, uwchraddio cartrefi preswyl, cyllid i gynllun Teithio Preswyl yn Aberystwyth a Llanbed.

Bydd gostyngiadau pellach yn cael eu cofnodi yn ddiweddarach yn ystod proses y gyllideb, yn ôl y Cynghorydd Gareth Lloyd.