Mae ditectifs sy’n ymchwilio i lofruddiaeth June Fox-Roberts yn Llanilltud Faerdref wedi cael gwarant i gadw dyn 25 oed yn y ddalfa am gyfnod hirach.

Cafodd y dyn ei arestio gan Heddlu De Cymru ddydd Mawrth (23 Tachwedd) ar amheuaeth o lofruddio June Fox-Roberts, 65, yn ei chartref.

Mae’n debyg bod y llofruddiaeth wedi digwydd yn y tŷ ar Rodfa’r Santes Anne brynhawn dydd Sul (21 Tachwedd), ac mae’r ymchwiliad yn parhau, meddai’r heddlu.

“Mae gen i dîm o dros 50 oed dditectifs yn gweithio’n ddiflino ar yr ymchwiliad, mae’r tîm hefyd yn cynnwys swyddogion arbenigol sy’n gweithio drwy’r dydd a’r nos er mwyn dod i wybod yn union beth ddigwyddodd i June,” meddai’r Ditectif Uwch-arolygydd Darren George.

“Dw i’n llawn werthfawrogi a deall yr effaith y mae’r llofruddiaeth hwn wedi’i gael ar gymuned glos Llanilltud Faerdref, a hoffwn ddiolch yn bersonol i bawb sydd wedi dod atom a helpu gyda’r ymchwiliad hyd yn hyn.

“Mae teulu June yn parhau i dderbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol a gofynnwn eu bod nhw’n cael amser i alaru mewn preifatrwydd.

“Mae’r dyn 25 oed sydd wedi cael ei arestio dal yn y ddalfa wrth i’n hymchwiliad barhau ar gyflymder.”

Gofynnodd Darren George i bobol beidio â damcaniaethu ynghylch yr hyn ddigwyddodd.

Dylai unrhyw un sydd gan wybodaeth a allai helpu’r ymchwiliad gysylltu â Heddlu De Cymru.