Mae’r heddlu’n dweud eu bod nhw wedi arestio dyn mewn perthynas â llofruddiaeth dynes 65 oed yn Llanilltud Faerdref, gan ddweud mai June Fox-Roberts yw enw’r ddynes y cafwyd hyd i’w chorff yn ei chartref yno.
Dydy hi ddim wedi cael ei hadnabod yn ffurfiol eto, ac mae ymchwiliad yr heddlu’n parhau.
Mae Heddlu’r De hefyd wedi cadarnhau mai cartre’r ddynes yw’r eiddo maen nhw wedi bod yn ei archwilio yn Rhodfa Santes Anne.
Daethon nhw o hyd i’w chorff ar ôl derbyn galwad ffôn gan aelod o’r teulu oedd yn poeni amdani.
Teyrnged
Mae teulu June Fox-Roberts wedi talu teyrnged iddi, gan ddweud eu bod nhw “mewn sioc llwyr” ynghylch marwolaeth eu mam.
“Fydd ei llofruddiaeth fyth yn gwneud synnwyr i ni,” meddai’r teulu.
“Roedd hi’n ddynes garedig a hael nad oedd hi fyth yn hapusach na phan oedd ei theulu a’i ffrindiau o’i chwmpas.
“Roedd hi’n caru ei theulu’n fawr iawn, a fyddwn ni fyth yr un fath eto. Rydyn ni’n torri ein calonnau.
“Parchwch ein preifatrwydd, os gwelwch yn dda, a gadewch i ni alaru a dod i delerau â’r hyn sydd wedi digwydd.”
Mae’r heddlu’n parhau i apelio am wybodaeth, ac yn dweud bod arestio’r dyn heddiw’n “ddatblygiad arwyddocaol” er bod patrolau’n parhau yn yr ardal leol i “dawelu meddyliau’r gymuned”.
Dylai unrhyw un â gywbodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.