Mae’r heddlu sy’n cynnal ymchwiliad i farwolaeth dynes ac yn ei thrin fel achos o lofruddio wedi bod yn chwilio coetir ger ei chartref yn Llanilltud Faerdref, yn ôl adroddiadau.

Cafwyd hyd i gorff y ddynes am oddeutu 2.45yp ddydd Sul (Tachwedd 21).

Mae’r heddlu’n atal mynediad i Rodfa’r Santes Anne, y ganolfan gymunedol leol a Heol Dowlais ar hyn o bryd.

Maen nhw eisoes wedi bod yn chwilio’r coetir dros y dyddiau diwethaf, ond dydyn nhw ddim wedi cyhoeddi rhagor o fanylion hyd yn hyn.

Mae lle i gredu eu bod nhw hefyd wedi mynd â char oddi yno ddoe (dydd Llun, Tachwedd 22).

Mae’r heddlu’n cynnal ymchwiliad o ddrws i ddrws, ac maen nhw wedi sefydlu ystafell ymchwilio ar gyfer y digwyddiad ond maen nhw’n dweud nad ydyn nhw wedi arestio unrhyw un mewn perthynas â marwolaeth y ddynes hyd yn hyn.

 

Ymchwilio i lofruddiaeth yn Rhondda Cynon Taf

Bu farw dynes, sydd heb ei henwi, yn Llanilltud Faerdref brynhawn dydd Sul (Tachwedd 21)