Bydd Cabinet Llywodraeth Cymru’n cyfarfod yn nes ymlaen yn ystod yr wythnos hon i drafod a oes angen ymestyn pasys Covid i’r sector lletygarwch.
Yn ôl Vaughan Gething, Ysgrifennydd yr Economi, mae trafodaethau ynghylch ymestyn y pasys ar y gweill yn barod, wrth i gyfraddau Covid barhau’n “uchel iawn”.
Er bod y gyfradd achosion fesul saith niwrnod wedi gostwng o 521 i bob 100,000 i 511.1, mae yna “bryder gwirioneddol” y gallwn ni weld mwy o bwysau ar y system iechyd “os ydyn ni’n goddef y lefelau hynny” a ddim yn gweithredu, meddai Vaughan Gething heddiw (dydd Mawrth, Tachwedd 23).
Dydi Llywodraeth Cymru ddim yn disgwyl gorfod gwneud yr un math o benderfyniadau dros y Nadolig eleni ag y bu’n rhaid iddyn nhw y llynedd – pan fu’n rhaid cyflwyno cyfnod clo ar frys – oni bai bod amrywiolyn sy’n gwrthsefyll y brechlyn yn ymddangos.
‘Pryder gwirioneddol’
Mewn cynhadledd i’r wasg, dywedodd Vaughan Gething fod y cyfraddau Covid wedi cynyddu yn hanner awdurdodau lleol Cymru, a bod y gyfradd dros Gymru “dal yn uchel iawn, ychydig dros 500 i bob 100,000″.
“Felly mae yna bryder gwirioneddol, os ydyn ni’n goddef y lefel honno o Covid yn y boblogaeth, heb gymryd camau pellach, gallwn weld mwy o bwysau ar ein system iechyd a gofal,” meddai Vaughan Gething.
“Gallai hynny achosi heriau i fusnesau, nid i’r gwasanaeth iechyd yn unig, oherwydd mae busnesau’n gwybod yn barod eu bod nhw’n wynebu heriau mewn marchnad lafur dynn lle maen nhw angen mwy o bobol, a phobol yna’n gorfod hunanynysu oherwydd mae ganddyn nhw Covid.
“Byddwn ni eisiau parhau i fwynhau manwerthu a lletygarwch yn y dyfodol, felly mae [angen] gwneud y peth iawn efo mygydau, trin staff efo pharch a charedigrwydd, ac rydyn ni dal i gael y trafodaethau hynny ynghylch a oes angen defnyddio pasys Covid ar gyfer rhoi mesur arall o amddiffyniad i ni yn erbyn [gorfod gosod] cyfyngiadau llymach, a fyddai wir yn cael effaith ar swyddi a busnesau.
“Mae’r trafodaethau hynny’n parhau, a bydd y Cabinet yn trafod hynny eto’n hwyrach yr wythnos hon.”
Y Nadolig
Wrth ystyried a fydd angen cyfyngiadau pellach dros y Nadolig, dywedodd Vaughan Gething fod y rhaglen frechu wedi “rhoi cefnogaeth anferth” wrth ganiatáu i fusnesau a chymdeithas barhau ar agor.
“Bydd Nadolig eleni yn well o lawer na’r un llynedd, heb amheuaeth, oherwydd dw i wir ddim yn meddwl y bydd rhaid i ni wneud yr un math o benderfyniadau ag yr oedd rhaid i ni eu gwneud llynedd oni bai bod amrywiol sy’n gwrthsefyll y brechlyn, a fyddai’n achosi pryderon gwirionedd i ni, yn ymddangos,” meddai Vaughan Gething.
“Yr her yw, wrth edrych ar weddill gogledd a dwyrain Ewrop, rydych chi’n gweld cynnydd pellach mewn cyfraddau achosion Covid, ac mae gennym ni gyfraddau uchel iawn yn fan hyn yn barod.
“Mae’r rhaglen frechu wedi rhoi cefnogaeth anferth i ganiatáu i ni gael ystod o wasanaethau a busnesau ar agor, a dyna pam nad ydyn ni wedi gweld yr heriau eithriadol welodd ein Gwasanaeth Iechyd ni’r adeg hon llynedd wrth fynd drwy’r Nadolig.
“Mae llai o bobol angen mynd i’r ysbyty, ac mae llai o bobol yn colli’u bywydau. Mae’r gwahaniaeth yn syfrdanol. Dyna pam ein bod ni’n gosod gymaint o bwyslais ar bobol i gymryd y brechlyn atgyfnerthu.”
Mae’r modelu yn awgrymu ei bod hi’n bosib na fydd rhaid gosod rhagor o gyfyngiadau, megis drwy godi’r lefel rhybudd, meddai Vaughan Gething, ond dywedodd y bydd y gyfradd bresennol o achosion Covid yn parhau i roi pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd – sy’n brysur gyda gwasanaethau eraill hefyd.
Ychwanegodd ei bod hi’n debyg y bydd mwy o’r ffliw yn lledaenu dros y gaeaf hwn, ond nad yw’r Llywodraeth yn hollol siŵr pa mor arwyddocaol fydd hynny.
“Dyna pam ein bod ni wrthi’n trafod a oes angen i ni gyflwyno’r pasys Covid mewn lletygarwch,” meddai.
Dywedodd Vaughan Gething fod y diwydiant lletygarwch yn deall y gall yr un mesur ychwanegol hwn helpu Llywodraeth Cymru i gadw’r sector ar agor.
“Mae rhaid i ni ddeall a chydbwyso’r cyfraddau uchel o Covid rydyn ni’n eu hwynebu… a ddylen ni ac a fyddwn ni’n ymateb nawr, neu aros a gweld? A gallai hynny olygu y byddai angen cymryd camau pellach,” meddai.
Daw hyn wrth i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ddiweddaru eu canllawiau gan annog pobol i gymryd prawf llif unffordd cyn mynd i leoliadau lle mae risg uchel o ddal Covid.
‘Dinistrio busnesau’
Wrth ymateb i’r ffaith fod Llywodraeth Cymru yn cynnal trafodaethau ar ymestyn pasys Covid i’r sector lletygarwch, mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi’u hannog nhw i anghofio am y syniad.
“Ni fydd ymestyn y pasys diwerth hyn i dafarndai, bwytai a chaffis yn gwneud unrhyw beth i atal lledaeniad coronafeirws ond bydd yn gwneud popeth i ddinistrio busnesau,” meddai Tom Giffard, llefarydd twristiaeth, diwylliant a chwaraeon y Ceidwadwyr Cymreig.
“Mae ein diwydiant lletygarwch wedi derbyn ergyd sylweddol dros yr 19 mis diwethaf, a dylen ni fod yn gwneud popeth posib i helpu busnesau yn hytrach na achosi mwy o ddigalondid iddyn nhw a gwthio nhw ymhellach tuag at lanast ariannol.”
Cadwyn gyflenwi
Wrth ateb cwestiwn ynghylch prinderau posib mewn nwyddau a chynnyrch dros y Nadolig, a phroblemau gyda’r gadwyn gyflenwi, dywedodd Vaughan Gething na all roi sicrwydd na fydd problemau.
“Rydych chi wedi clywed yn barod gan gynhyrchwyr tyrcwn, er enghraifft, yn dweud y bydd digon o dyrcwn i bawb gael twrci, ond bydd y dewis yn gyfyngedig,” meddai Vaughan Gething.
“Rydyn ni’n clywed bod rhai cyflenwyr yn poeni am eu cadwynau cyflenwi gyda’r cyflenwad sy’n dod mewn.
“Allwn i ddim rhoi sicrwydd i chi, a byddai’n wirion i mi drio, am yr holl gadwyni cyflenwi, a’r heriau a allai godi yn yr ychydig wythnosau nesaf.”