Mae rhybudd tywydd wedi cael ei gyhoeddi gyda gwyntoedd cryfion yn cyrraedd Cymru dros y penwythnos.

Mae’r Swyddfa Dywydd eisoes wedi cyhoeddi rhybudd tywydd melyn am “dywydd gwyntog iawn” ledled Cymru a’r rhan fwyaf o’r Deyrnas Unedig ar gyfer dydd Sadwrn (Tachwedd 27).

Bydd yn dod i rym am 12yb a bydd yn para am y rhan fwyaf o’r dydd tan 6yh.

Ond gallai’r gwyntoedd gyrraedd hyd at 80m.y.a. mewn ardaloedd arfordirol.

Mae trigolion wedi cael rhybudd am oedi i drafnidiaeth ffyrdd, rheilffyrdd, awyr a fferi yn ystod y cyfnod hwn yn ogystal â thoriadau pŵer posibl, cau ffyrdd a posibilrwydd bychan o ddifrod i adeiladau.

“Bydd y gwyntoedd cryfaf yn cyrraedd ar draws gogledd yr Alban yn ystod prynhawn Gwener, cyn dod yn fwy cyffredin dros nos ac i fore Sadwrn,” meddai llefarydd ar ran y Swyddfa Dywydd.

“Bydd gwyntoedd yn tueddu i leddfu’n araf o’r gogledd yn ystod y prynhawn.

“Mae lleoliad a chryfder y gwyntoedd cryfaf un yn parhau i fod yn ansicr.

“Fodd bynnag, mae’n debygol o gyrraedd 50 i 60 m.y.a. yn gyffredinol, gyda 70 i 80 m.y.a. yn bosibl mewn lleoliadau arfordirol.”