Mae ymgyrch newydd wedi cael ei lansio er mwyn targedu pobol sy’n gyrru dan ddylanwad cyffuriau.
Yn y deuddeg mis rhwng Ebrill y llynedd ac Ebrill eleni, fe wnaeth elusen Crimestoppers Cymru dderbyn 1,097 o adroddiadau am bobol yn yfed dan ddylanwad cyffuriau yng Nghymru.
Bu cynnydd sylweddol wedyn dros y saith mis rhwng Ebrill a Hydref eleni, gyda’r elusen yn derbyn 1,020 o adroddiadau yn y cyfnod hwnnw’n unig.
Cynnydd mewn achosion
Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, mae nifer y bobol sy’n cael eu harestio am yfed dan ddylanwad cyffuriau’n parhau i godi yn yr ardal.
Rhwng Ionawr a Medi eleni, cafodd 716 o achosion eu cofnodi gan Heddlu’r Gogledd.
Yn ôl Crimestoppers, mae un ym mhob 20 marwolaeth sy’n digwydd ar y ffyrdd yng Nghymru yn cael eu hachosi gan yrwyr sydd dan ddylanwad cyffuriau.
Nod yr ymgyrch newydd yw annog mwy o aelodau’r cyhoedd i ddweud wrth yr elusen, yn ddienw, am bobol sy’n gyrru dan ddylanwad cyffuriau yn aml fel eu bod nhw’n cael eu gwahardd rhag gyrru, gan wneud y ffyrdd yn fwy diogel.
Yn ôl Crimestoppers, mae nifer o’r rhai sy’n marw yn sgil gwrthdrawiadau ar y ffyrdd yn deithwyr sydd mewn car â gyrrwr dan ddylanwadu cyffuriau, neu’n bobol mewn ceir eraill sy’n cael eu taro gan yrwyr sydd dan ddylanwad cyffuriau.
‘Problem sylweddol’
“Er ein bod ni’n obeithiol wrth weld cynnydd yn yr adroddiadau rydyn ni wedi’u derbyn gan y cyhoedd, mae’n amlygu’r ffaith fod gyrru dan ddylanwad cyffuriau’n broblem sylweddol yng Nghymru,” meddai Hayley Frey, Rheolwr Rhanbarthol Crimestoppers yng Nghymru.
“Yn ystod y cyfnod clo, fe wnaeth adroddiadau am yrru dan ddylanwad cyffuriau gynyddu ac mae hynny wedi parhau dros y saith mis diwethaf.
“Mae nifer o fywydau diniwed yn cael eu rhoi mewn perygl gan nifer fechan o bobol sy’n dewis torri’r gyfraith.
“Mae gyrwyr sydd dan ddylanwad cyffuriau’n rhoi bywydau pobol eraill mewn perygl a gallai eich gwybodaeth helpu i atal gwrthdrawiad dinistriol neu farwol rhag digwydd.
“Mae ein hymgyrchwyr yn trio annog pobol a allai fod yn meddwl gyrru dan ddylanwad cyffuriau i beidio gwneud hynny a sicrhau eu bod nhw’n ystyried goblygiadau eu gweithredoedd arnyn nhw eu hunain, eu teuluoedd, a theuluoedd dioddefwyr posib.
“Rydyn ni’n gadael i’r bobol hynny wybod bod adroddiadau am bobol sy’n cymryd cyffuriau ac yna’n gyrru yn cael eu gwneud, a’u bod nhw’n cael eu stopio, eu profi, a’u gwahardd.”
Mae Crimestoppers yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am bobol sy’n gyrru dan ddylanwad cyffuriau i gysylltu â nhw’n ddienw.