Gallai Cyngor Sir Conwy fod o dan straen ariannol pellach pe bai cynlluniau i godi cyflogau cynghorwyr o gyfanswm o £146,000 yn cael eu cymeradwyo.

Ac er bod aelodau wedi pleidleisio i rewi eu holl gyflogau a chostau, mae penderfyniad terfynol eto i gael ei wneud.

Mae Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (IRPW) wedi cyhoeddi eu cynlluniau ar gyfer cyflogau’r awdurdod, sy’n cynnwys £6,726 i arweinydd y Cyngor.

Fe wnaeth cynllun drafft yr IRPW gael ei drafod gan bwyllgor gwasanaethau democrataidd Cyngor Sir Conwy mewn cyfarfod heddiw (dydd Mawrth, Tachwedd 23), gyda’r broses ymgynghori’n dod i ben ddydd Gwener (Tachwedd 26).

Cynigion

Pe baen nhw’n cael eu cymeradwyo, byddai’r newidiadau’n cael eu cyflwyno yn dilyn etholiadau lleol fis Mai y flwyddyn nesaf.

Yn rhan o’r newidiadau, byddai cyflog sylfaenol i gynghorydd yn codi o £14,368 i 16,800, gyda chyflog yr arweinydd yn codi o £49,974 i £56,700 y flwyddyn.

Er hynny, bydd nifer y cynghorwyr yng Nghonwy yn disgyn o 59 i 55 oherwydd y newidiadau i ffiniau etholaethol, sy’n golygu y bydd peth arian yn cael ei arbed.

Hollti barn

Mae’r Cynghorydd Harry Saville yn anghytuno â’r cynigion yn yr hinsawdd sydd ohoni.

“Wrth ystyried ein bod ni yng nghanol yr adferiad economaidd o’r pandemig Covid-19, dw i’n credu y byddai codiad o 16.9% i swyddogion etholedig yn sarhad,” meddai.

Mae rhai cynghorwyr, fel Goronwy Edwards, yn teimlo y byddai codiad cyflog yn denu mwy o bobol o oedran gweithio ac o gefndiroedd amrywiol.

“Os ydyn ni’n mynd i ddenu’r bobol yna, rhaid i ni fod yn realistig am y mathau o gyflogau y byddan nhw’n gallu eu disgwyl wrth ymgymryd â’r swyddi,” meddai.

“Pan ddechreuais i fel cynghorydd yn 1991, roedd yr arian roedden ni’n cael ein talu y nesaf peth i ddim, ac yn raddol dros y blynyddoedd, maen nhw wedi cydnabod y cynnydd yn ein llwyth gwaith a’r cyfrifoldebau rydyn ni’n eu derbyn.”

Cafodd y cynnig i rewi cyflogau a chostau ei gymerdawyo o wyth pleidlais i chwech.

Bydd y penderfyniad terfynol yn cael ei wneud gan y Panel Annibynnol dros yr wythnosau nesaf.