Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi methu â datblygu cynllun newydd i warchod Caerfyrddin rhag llifogydd, er gwaethaf pryderon gan fusnesau a gwleidyddion.

Mae’r ardal yn dueddol o ddioddef llifogydd, ond ar ôl adolygu ei opsiynau a’i fodelu mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dweud “nad oes dim wedi newid yn sylfaenol”.

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae busnesau ar Y Cei, gan Afon Tywi, wedi dioddef llifogydd dro ar ôl tro, a chafodd dau gyfarfod cyhoeddus eu cynnal ar y mater.

Mae’r Aelod o’r Senedd Ceidwadol Samuel Kurtz wedi honni ei bod hi’n ymddangos fel bod Llywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru yn “pasio’r baich”.

Yn gyffredinol, mae polisi amddiffyn rhag llifogydd yng Nghymru yn blaenoriaethu eiddo preswyl dros fusnesau, sydd yn ei dro yn llywio’r math o gynlluniau y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn eu cyflwyno i’w cymeradwyo a’u hariannu gan Lywodraeth Cymru.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, fe allai busnesau hefyd elwa o gynlluniau sy’n diogelu cartrefi hefyd, neu os yw Cyfoeth Naturiol Cymru yn gallu cyfiawnhau cynllun sydd ond yn amddiffyn busnesau.

Mae Samuel Kurtz, AoS Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, wedi galw am strategaeth sy’n trin cartrefi a busnesau yn gydradd.

“Rydym bellach mewn sefyllfa lle mae’n ymddangos bod Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru yn pasio’r baich o ran pwy sy’n gyfrifol am ddatblygu strategaeth atal llifogydd ar gyfer Caerfyrddin – nid yw hyn yn ddigon da, ac nid dyna y mae perchnogion busnesau lleol yn ei haeddu,” meddai.

“Wrth edrych i’r dyfodol, mae angen strategaeth amddiffyn rhag llifogydd sy’n mynd i amddiffyn busnesau lleol a chadw eiddo’n ddiogel.”

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart, ei fod wedi canfod mwy o hyblygrwydd yn y trefniadau presennol erbyn hyn nag ar yr olwg gyntaf, ac mae wedi gofyn i Gyfoeth Naturiol Cymru gynnig cynllun amddiffyn ar gyfer Caerfyrddin.

“Heriau unigryw” yng Nghaerfyrddin

Wrth ymateb, dywedodd rheolwr rheoli llifogydd a dŵr Cyfoeth Naturiol Cymru, Tim England, fod Caerfyrddin yn “dod â’i heriau unigryw ei hun” oherwydd bod llawer o ran isaf y dref wedi’i hadeiladu ar orlifdir.

Er bod yr ardaloedd o amgylch Pensarn wedi’u diogelu gan amddiffynfeydd llifogydd presennol, nid oedd ymestyn neu adeiladu amddiffynfeydd llifogydd mewn mannau eraill yn syml am nifer o resymau, meddai, gan gynnwys sut y blaenoriaethwyd cynlluniau, effeithiau andwyol posibl, a seilwaith hanesyddol.

“Adeiladwyd y Cei yn fwriadol yn is na rhannau eraill o’r ardal er mwyn ei gwneud hi’n haws i gyrraedd llanw’r afon, etifeddiaeth o’i chefndir diwydiannol,” meddai.

“Mae hanes yn dweud wrthym nad oes atebion hawdd i’r Cei.

“Mae maint a her y newid yn yr hinsawdd yn sylweddol ac yn cynyddu, a bydd yn rhaid i ni reoli disgwyliadau o ran faint o lifogydd y gellir ei atal neu ei reoli’n realistig.”

Dywedodd bod deialog yn parhau gyda Chyngor Sir Caerfyrddin a gwleidyddion, ond ychwanegodd: “Rydym wedi adolygu cynigion y gorffennol ar gyfer yr ardal ac nid oes dim wedi newid yn sylfaenol, sy’n golygu nad ydym yn gallu bwrw ymlaen â chynllun llifogydd ar gyfer yr ardal o hyd.”

“Panic stations”

Yn ôl un o weithwyr bwyty Dexters ar y Cei, sydd wedi dioddef yn sgil llifogydd dro ar ôl tro, maen nhw’n derbyn galwadau ffôn gan Gyfoeth Naturiol Cymru pan mae rhybuddion am lifogydd.

“Mae pawb yn gorfod helpu – panic stations,” meddai Ceri Wallace.

“Ond does yna ddim byd allwn ni ei wneud. Mae’r dŵr yn dod drwy’r waliau a’r lloriau. Allwn ni ddim stopio hynny.

“Bob tro mae yna lifogydd mae yna ymgyrch anferth yn y wasg, pethau’n cael eu dweud, yna does dim byd yn digwydd, sydd yn anffodus. Mae cwsmeriaid yn holi ni’n aml ynglŷn â’r sefyllfa.”

Rhwystr dros dro

Dywedodd Gareth John, y Cynghorydd dros Dde Caerfyrddin, fod y broblem gyda datblygu cynllun i warchod y Cei yn codi o’r ffaith na fyddai rhaglen o’r fath gael ei chymeradwyo ar lefel Llywodraeth Cymru gan fod y pwyslais ar eiddo preswyl.

Mae’r Cynghorydd Gareth John wedi awgrymu codi rhwystr dros dro i amddiffyn rhan isaf y Cei yn ystod llifogydd, ond does gan Gyfoeth Naturiol Cymru ddim yr adnoddau i brynu un, na’r staff i’w osod a’i dynnu lawr pan fo’r angen, meddai.

“Yn y bôn, am nifer o resymau, mae adnoddau’n cael eu targedu tuag at amddiffyn eiddo domestig, sy’n golygu na fyddai rhaglen ar gyfer Caerfyrddin yn cael ei chymeradwyo.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mai Cyfoeth Naturiol Cymru sydd yn y sefyllfa orau i ddewis lleoliadau, gan gynnwys Afon Tywi, a fyddai’n addas ar gyfer cael amddiffynfeydd llifogydd.

“Rydyn ni’n asesu pob cynnig wedyn er mwyn sicrhau eu bod nhw’n ymarferol a bod talwyr trethi’n cael gwerth eu harian.”

Mae Llywodraeth Cymru’n rhoi £65 miliwn i Gyfoeth Naturiol Cymru a chynghorau lleol eleni er mwyn mynd i’r afael â phroblemau gyda llifogydd, ychwanegodd.