Mae Cyngor Gwynedd wedi ymrwymo i gynnig nwyddau mislif am ddim i drigolion yn eu llyfrgelloedd.

Bwriad yr awdurdod,l meddai, ydi taclo tlodi mislif a chodi ymwybyddiaeth o fuddiannau amgylcheddol cynnyrch lle mae modd eu hail-ddefnyddio.

Bydd y nwyddau eco-gyfeillgar ar gael yn nhoiledau deg llyfrgell, gan gynnwys Bangor, Bethesda, Caernarfon a Phenygroes, yn ogystal ag Abermaw, Blaenau Ffestiniog, Dolgellau, Nefyn, Pwllheli (Neuadd Dwyfor), a Thywyn.

Mae nwyddau mislif am ddim wedi bod yn cael eu darparu gan y Cyngor ers dros flwyddyn, ar ôl i’r Adran Addysg dderbyn grant gan Lywodraeth Cymru.

Mae modd i unrhyw un sydd angen y nwyddau eu harchebu ar-lein neu gysylltu i’w harchebu, ac mae nifer o fudiadau cymunedol lleol yn eu darparu hefyd.

Nwyddau mislif am ddim

Dywed Cyngor Gwynedd fod eu “llyfrgelloedd yn gyrchfannau cymunedol sy’n darparu llu o wasanaethau a gwybodaeth, ac yn awr, bydd modd i unrhyw un sydd eu hangen, allu cael gafael ar nwyddau mislif am ddim trwy Lyfrgelloedd Cyngor Gwynedd.”

Ychwanegon nhw ei bod hi’n “bwysig iawn codi ymwybyddiaeth am nwyddau mislif ecolegol” er mwyn lleihau gwastraff plastig.

Bydd nwyddau megis cwpan mislif, diheintydd cwpan mislif, padiau dydd gellir eu hailddefnyddio a phadiau nos y gellir eu hailddefnyddio ar gael yn llyfrgelloedd y Cyngor o dan y cynllun.

Cynllun y Llywodraeth

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi cynllun gweithredu i ddiddymu tlodi mislif a “sicrhau urddas mislif i bawb yng Nghymru,” ym mis Hydref, ac y byddan nhw’n gwneud nwyddau mislif yn eitemau hanfodol yng Nghymru erbyn 2026.

Wrth lansio’r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Urddas Mislif, fe amlinellodd Jane Hutt, Ysgrifennydd Cyfiawnder Cymdeithasol Cymru, yr amcanion.

“Mae’r mislif yn effeithio ar bob un ohonon ni – rydyn ni naill ai yn eu cael ein hunain neu’n nabod rhywun sy’n eu cael,” meddai.

“Ddylai neb fod dan anfantais o achos eu mislif, a ddylai’r mislif byth fod yn rheswm i rywun fod ar ei golled o ran addysg, cyflogaeth na gweithgarwch cymdeithasol.

Jane Hutt

“Dylai nwyddau mislif o ansawdd fod ar gael i bawb, i’w defnyddio mewn ardal breifat sy’n ddiogel ac yn gwarchod urddas.

“Rydyn ni eisiau i nwyddau mislif fod ar gael mewn ffordd deg ledled Cymru ac, yn hollbwysig, rydyn ni am roi terfyn ar y stigma, y tabŵau a’r mythau sy’n bodoli ynghylch y mislif.

“Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw un yn teimlo cywilydd neu embaras ynghylch y mislif a bod pawb yn gallu siarad yn agored ac yn hyderus amdano.”