Mae pedwar o unigolion wedi eu harestio yn dilyn protest ar do ffatri yn Wrecsam ddoe (dydd Llun, 22 Tachwedd).

Roedd y protestwyr yn protestio yn erbyn cwmni Solvay Group, gan honni eu bod nhw’n darparu deunydd ar gyfer adeiladu dronau, sy’n cael eu defnyddio yn y rhyfel yn erbyn Palestiniaid.

Cawson nhw eu harestio am greu difrod i’r adeilad, a bu’n rhaid i weithwyr y ffatri roi’r gorau i’w gwaith ac ymgynnull tu allan i’r ffatri yn y cyfamser.

Cafodd Heddlu Gogledd Cymru eu hysbysu am y digwyddiad yn Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam toc wedi 7yb ddoe, ac roedd rhaid i drafodwyr yr heddlu siarad gyda’r protestwyr drwy gydol y dydd i geisio eu darbwyllo nhw i ddod i lawr o’r to.

Daeth y digwyddiad i ben tua 8.50pm neithiwr (22 Tachwedd), ac mae ymchwiliad heddlu nawr wedi dechrau yn sgil yr arestiadau.

Datganiad yr heddlu

“Tua 07:15yb ddydd Llun, 22 Tachwedd, daeth Heddlu Gogledd Cymru yn ymwybodol o brotest Rhyddid i Balestina a oedd yn cael ei gynnal ar do ffatri Solvay ar Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam,” meddai Heddlu Gogledd Cymru.

“Cafodd trafodwyr ar ran yr heddlu eu hanfon i’r lleoliad i geisio trafod gyda’r protestwyr yn ystod y dydd.

“Ymunodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru â Heddlu Gogledd Cymru ynghyd â swyddogion heddlu arbenigol o’r rhanbarth i sicrhau bod y digwyddiad yn dod i ben yn ddiogel tua 20:50.

“Mae pedwar unigolyn wedi’u harestio ac mae ymchwiliad wedi ei gychwyn mewn perthynas â difrod a gafodd ei achosi i adeilad Solvay.”

‘Adeiladu dronau milwrol’

Yn eu datganiad wedi i’r ymgyrchwyr ymddangos ar do’r adeilad, dywedodd Palestine Action fod y safle’n “cynhyrchu deunydd a gludyddion” i UAV Tactical Systems, is-gwmni Elbit Systems, ar gyfer “adeiladu dronau milwrol”.

“Yn benodol, mae Solvay yn darparu ar gyfer y drôn Watchkeeper, sydd wedi ei ddatblygu a’i arbrofi ar Balestiniaid cyn cael ei ddefnyddio gan lywodraethau Gorllewinol yn erbyn pobol Affganistan ac Irac,” meddai’r grŵp.

“Mae Solvay hefyd yn gweithredu yn y Lan Orllewinol, gan wasanaethu ar gyfer aneddiadau anghyfreithlon Israel yno.”

Roedd Rhwydwaith Tanddaearol Cymru, sy’n fudiad sosialaidd a gweriniaethol, hefyd wedi cefnogi’r weithred.