Cafodd llifogydd yn Nhreherbert yn ystod Storm Dennis eu hachosi gan lefel sylweddol o ddŵr yn dod o’r bryniau serth uwchben y pentref.

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi cyhoeddi eu pedwerydd adroddiad yn ymchwilio i’r llifogydd yn dilyn y storm y llynedd, i geisio canfod achosion y llifogydd.

Roedd yr adroddiad y tro hwn yn edrych ar y llifogydd a ddigwyddodd yn Nhreherbert yn y Rhondda Fawr.

Fe ddangosodd bod 21 o dai wedi cael eu heffeithio gan ddŵr yn y gymuned leol, yn ogystal â dau fusnes a’r brif ffordd.

Daeth yr adroddiad i gasgliad bod tywydd Storm Dennis yn “eithafol” a’i bod hi’n annhebygol y gallai llifogydd gael eu hatal yn llwyr pe bai digwyddiad tebyg yn digwydd eto.

Dywedodd yr adroddiad fod dŵr glaw wedi draenio o dir uchel drwy gyrsiau dwr arferol, gyda llawer yn gorlifo oherwydd lefelau dwr a malurion, gan effeithio ar eiddo yn y broses.

Roedd awdurdodau rheoli risg wedi “cyflawni eu swyddogaethau yn foddhaol wrth ymateb i’r llifogydd, gyda mesurau pellach wedi eu cynnig i wella parodrwydd ac ymateb mewn achosion o lifogydd yn y dyfodol,” yn ôl yr adroddiad.

Achosion

Roedd pum ceuffos wedi eu nodi fel rhai a achosodd y llifogydd i eiddo, gyda’r pump ohonyn nhw mewn dwylo preifat.

Roedd dau o’r ceuffosydd, o fewn rhwydwaith Stryd Abertonllwyd, wedi cael eu gorlethu yn ystod y storm, a hynny am eu bod nhw o dan safonau disgwyliedig o ran dyluniad.

Mae’n debyg bod y tair ceuffos arall efo amddiffyniad digonol ar gyfer y mwyafrif helaeth o stormydd, ond bod rhwystrau yn y system wedi achosi’r llifogydd y tro hwn.

Dywed y Cyngor eu bod nhw wedi cymryd 13 cam gweithredu mewn ymateb i’r llifogydd, ac yn bwriadu gwneud chwech arall.

Mae hyn yn cynnwys gwneud gwaith i geuffosydd, adeiladu llifddorau, a datblygu systemau dargyfeirio dŵr.

Bydd y Cyngor yn paratoi cyfanswm o 19 adroddiad i’r llifogydd a gafodd eu hachosi gan Storm Dennis, gyda chefnogaeth gan drigolion lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru, a Dŵr Cymru.