Mae Radio Ysbyty Gwynedd yn dathlu 45 mlynedd o ddarlledu i gleifion a’r gymuned eleni.

I nodi’r achlysur mae’r orsaf, sy’n caei ei rhedeg gan wirfoddolwyr, wedi trefnu digwyddiad arbennig yn archfarchnad Morrisons yn ninas Bangor.

Ar safle’r siop fawr ym Mangor Uchaf y bu i Radio Ysbyty Gwynedd ddechrau darlledu, yn yr hen ysbyty C&A fel ag yr oedd hi ar y pryd yn 1976.

Bydd ’45 Radio Ysbyty Gwynedd’ yn cael ei gynnal ym maes parcio Morrisons ar 20 Tachwedd, a bydd yn cynnwys perfformiadau byw gan Dylan Morris, Arfon Wyn, Dylan a Neil, a Bedwyr Morgan.

Fe fydd cyfweliadau a negeseuon gan ystod o westeion hefyd, gan gynnwys Elin Fflur a Dafydd Iwan.

“O nerth i nerth”

Dywedodd Kevin Williams, Cadeirydd Radio Ysbyty Gwynedd, ei fod wrth ei fodd â datblygiad yr orsaf.

“Mae Radio Ysbyty Gwynedd yn mynd o nerth i nerth ac mae pob un o’n gwirfoddolwyr wedi gweithio mor galed i barhau â’n gwasanaeth gwerthfawr i’n cleifion a’n cymuned dros y 45 mlynedd diwethaf,” meddai Kevin Williams.

“Mae ein digwyddiad arbennig 45 yn gyfle i ddathlu, rhannu atgofion a chyfarchion a chofio gwirfoddolwyr sydd ddim efo ni mwyach.

“Hoffem ddiolch i Morrisons am eu holl gefnogaeth wych. Rydyn ni i gyd yn edrych ymlaen at ddathlu gyda’n cleifion a’n cymuned ar yr 20fed o Dachwedd rhwng 11am-3pm.”

Gall cleifion a’r gymuned wrando ar y dathliad yn fyw ar sianel 1 yn Ysbyty Gwynedd, ar wefan radio’r ysbyty, neu ar ap newydd Radio Ysbyty Gwynedd.

Enillodd yr orsaf enwebiad yng nghategori Gorsaf Digidol neu RSL y Flwyddyn 2021 am eu gwaith yn gwasanaethu cleifion Ysbyty Gwynedd ym Mangor a’r gymuned ehangach, gan gyrraedd y pump uchaf ar y rhestr fer o bob cwr o’r Deyrnas Unedig.