Mae gorsaf radio lleol Ysbyty Gwynedd wedi cyrraedd rhestr fer y Gwobrau Radio Cymunedol cenedlaethol.

Cafodd y rhestr fer ei chwtogi o fwy na 430 o gynigion gan orsafoedd o bob cornel o’r Deyrnas Unedig.

Mae’r orsaf wedi ennill enwebiad yng nghategori Gorsaf Ddigidol neu Orsaf RSL y Flwyddyn 2021 am eu gwaith yn gwasanaethu cleifion Ysbyty Gwynedd ym Mangor a’r gymuned ehangach.

Fe fydd yr enillwyr yn cael eu datgelu mewn seremoni yn Amgueddfa Trafnidiaeth Coventry, mewn partneriaeth â Dinas Diwylliant Coventry fis nesaf.

Dyma’r pumed tro i’r Gwobrau Radio Cenedlaethol, sy’n sefydliad dielw annibynnol i ddathlu, hyrwyddo a rhannu arfer gorau radio cymunedol, gael eu cynnal.

“Anrhydedd llwyr”

Dywedodd Kevin Williams, Cadeirydd Radio Ysbyty Gwynedd, eu bod nhw’n “falch iawn” o fod ar y rhestr fer.

“Rydym yn falch iawn ein bod wedi cael ein cydnabod ymhlith nifer fawr o orsafoedd eraill sy’n gwneud gwaith gwych ledled y Deyrnas Unedig,” meddai Kevin Williams.

“Mae cyrraedd rhestr fer Gorsaf Ddigidol neu Orsaf RSL y Flwyddyn 2021 am yr ail flwyddyn yn olynol yn anrhydedd llwyr.

“Rydw i mor falch, ac rydw i a phob un o’n gwirfoddolwyr wrth ein boddau gyda’r newyddion.

“Fel gorsaf ddwyieithog, rydym yn falch ein bod yn mynd i Coventry ac yn chwifio’r faner dros Gymru.”

“Rôl gymunedol hanfodol”

Mae’n “wych” cael dod ynghyd i ddathlu gwaith caled y deunaw mis diwethaf wyneb yn wyneb, meddai Martin Steers, cadeirydd y Gwobrau.

“Mae llawer o orsafoedd wedi cadarnhau eu rôl gymunedol hanfodol ymhellach yn yr amser hwn, ac mae’n wych adlewyrchu hynny,” meddai Martin Steers.

“Mae’n amlwg o hyn, fod cyflwynwyr angerddol, gwirfoddolwyr a staff wir yno i’w cynulleidfaoedd.

“Rydym yn dymuno pob lwc i Radio Ysbyty Gwynedd ac ni allwn aros i gynnal y seremoni yn Coventry y mis nesaf.”