Gall gwesty adnabyddus yng Ngwynedd gael ei ailagor yn y dyfodol agos yn dilyn cais cynllunio i’r awdurdod lleol.

Fe gaeodd Gwesty Seiont Manor ger Llanrug ei ddrysau fis Ionawr y llynedd, cyn mynd i ddwylo’r gweinyddwyr.

Mae cynlluniau gan y perchnogion newydd, Caernarfon Properties Ltd, am weld y gwesty’n cael ei ymestyn i gynnwys 33 ystafell wely ychwanegol a 39 llety gwyliau newydd.

Bydden nhw hefyd yn gwneud gwelliannau i gyfleusterau gan gynnwys cwrt tenis, lletyau i staff a gorsaf biomas bychan.

Yn ôl y cais, byddai’r cynllun yn creu 20 swydd llawn amser pe bai’n cael ei gymeradwyo, yn ogystal â 150 o swyddi yng nghyfnod datblygu’r safle.

Anghynaladwy

Dywed perchnogion y safle fod rhaid ailddatblygu’r safle gan ei fod yn “anghynaladwy yn ei ffurf bresennol”, wrth ystyried cyflwr economaidd y diwydiant lletygarwch a thwristiaeth, yn enwedig yn dilyn y pandemig.

“Roedd y gwesty, tan fis Rhagfyr 2016, yn eiddo i ac yn cael ei weithredu gan Handpicked Hotels,” meddai’r perchnogion newydd yn eu cais cynllunio.

“Fe wnaeth y busnes hwnnw golled yn barhaus am y 14 mlynedd diwethaf, ac er ei fod yn westy moethus a lleoliad poblogaidd yn y gorffennol, mae bellach yn anghynaladwy yn ei ffurf bresennol.

“Hefyd, mae’r diwydiant twristiaeth a lletygarwch bellach yn wynebu’r her ychwanegol o adfer o’r cyfnod clo a chau cyfleusterau’n llwyr yn ystod pandemig Covid-19.

“Rhaid i westai a busnes hamdden addasu’n gyflym os ydyn nhw am wella ac mae’n amlwg bod yn rhaid addasu ansawdd a ffurf lletyau twristiaeth i roi’r hyder sydd ei angen ar ymwelwyr domestig a rhyngwladol.”

Mae disgwyl i Gyngor Gwynedd wneud penderfyniad ar y cais dros y misoedd nesaf.