Hwb ariannol i Fenter Ty’n Llan, Llandwrog wrth iddyn nhw baratoi i agor eu drysau

Mae tafarn Ty’n Llan yn Llandwrog wedi derbyn hwb ariannol, wrth iddyn nhw wneud y paratoadau olaf cyn agor.

Fe gafodd ei gyhoeddi yn rhan o’r Gyllideb yr wythnos hon y byddai’r fenter yn derbyn £250,000 o Gronfa Perchnogaeth Gymunedol Llywodraeth Prydain.

Dim ond dau brosiect arall drwy Gymru gyfan oedd yn derbyn arian o’r gronfa honno.

Sefydlwyd y fenter yn Mawrth 2021 gyda ymgyrch i achub y dafarn, a llwyddodd y gymuned, yn Nyffryn Nantlle, i gasglu £467k mewn cyfranddaliadau gyda cefnogaeth dros 1,000 o fuddsoddwyr i brynu’r adeilad.

Roedd yr adeilad wedi bod yn eistedd yn wag ers 2017, ac roedd pobol y pentref yn awyddus i’w ail agor fel canolbwynt cymdeithasol.  Nid oes neuadd nag siop yn y pentref.

Mae llawer o waith i’w wneud er mwyn adnewyddu’r adeilad ac i roi estyniad er mwyn creu gofod mwy, ond mae hyn am gymryd amser i’w wireddu.

Yn y cyfamser, mae’r pwyllgor gweithredu yn gobeithio gallu agor y dafarn dros dro erbyn diwedd mis Tachwedd, ac maen nhw wrthi ar hyn o bryd yn recriwtio staff i weithio yno.

Hwb

Mae Caryl Elin Lewis, sydd ar bwyllgor gweithredu Ty’n Llan, yn croesawu’r arian o’r Gronfa.

“Mae hyn yn hwb mawr i ni” meddai wrth golwg360.

“Mi roedd cryn gystadleuaeth i gael arian o’r gronfa hon gan ei bod yn gronfa dros y Deurnas Unedig, felly rydyn ni’n hynod falch.

“Mae’n rhoi hyder i ni fod ein cynllun busnes yn gadarn, ac mae’r ffaith bod cymaint wedi buddsoddi yn dangos faint o gefnogaeth sydd yna i’r cynllun.

“I wireddu ein gweledigaeth llawn i greu gofod cymunedol, caffi a bwyty, stafelloedd aros, siop a thafarn rydym angen codi o leiaf £500k fyny at tua £800k.

“Byddwn i’n targedu cronfeydd pellach rŵan, ac mae’r ffaith ein bod ni wedi llwyddo gyda’r grant yma yn cryfhau unrhyw geisiadau y gwnawn ni.”

Gwaith paratoi i agor dros dro

“Rydyn ni wedi gwneud llawer o waith tu mewn efo cymorth gwirfoddolwyr, mae pobl wedi bod yn brysur iawn,” meddai Caryl Elin Lewis.

“Rydym yn gweithio gyda pensaer ar y funud i ddatblygu cynlluniau ar gyfer y gwaith adnewyddu ac ymestyn y cefn.   Mae’r broses o dderbyn caniatad priodol a chodi’r arian i gyd am gymryd tua blwyddyn,  yn y cyfamser rydym am agor y dafarn dros dro.

“Rydym yn anelu i arddangos yr opsiynau gwahanol cyn y nadolig, fel bod pobol yn cael cyfle i roi barn, a’n helpu ni i ddewis cynllun terfynol

“Gallwn wedyn ddechrau ar y broses o dderbyn caniatad cynllunio a chaniatad cadwraeth, a dennu mwy o grantiau.

“Mae hyn oll am gymryd tua blwyddyn a byddai yn biti gweld y dafarn yn wag am lawer hirach, rydym yn edrych ymlaen i agor fyny dros dro yn y cyfamser er mwyn dod ar gymuned at ei gilydd ac i bobl gael mwynhau”.