Mae’r broses o adolygu Cynllun Datblygu Lleol Gwynedd a Môn ar fin dechrau.
Fe gafodd y cynllun ei fabwysiadu yn 2017, ac mae’n gosod yr agenda ar gyfer polisïau cynllunio yn y ddwy sir, yn ogystal â chlustnodi lle y dylid dyrannu swyddi ac adeiladu 8,000 o dai dros y 15 mlynedd nesaf.
Ers i’r cynllun gael ei gyflwyno, mae pwysau wedi bod ar y Cyngor i fyfyrio ar y polisi yn sgil yr argyfwng tai, effeithiau Brexit a’r pandemig, yn ogystal â phryderon ynglŷn ag ail gartrefi yn y ddwy sir.
Hefyd, roedd y cynllun pan gafodd ei lunio yn rhagdybio y byddai angen cartrefi ar gyfer y miloedd o weithwyr a fyddai ynghlwm wrth ddatblygiad yn Wylfa Newydd, sydd bellach wedi ei ohirio.
Mae nifer o gynghorwyr, felly, yn honni bod y cynllun “wedi dyddio” ac nad yw’n “addas i’r pwrpas” o gyrraedd anghenion pobol leol.
Galwadau
Ym mis Mehefin, fe wnaeth Cyngor Gwynedd basio cynnig oedd yn galw am gyflymu’r broses o adolygu’r cynllun, sy’n mynd i gymryd tair blynedd a hanner.
Bryd hynny, dywedodd Gruffydd Williams, y cynghorydd dros Nefyn, fod gormod o bolisïau yn bodoli a oedd yn agored i ddisgresiwn swyddogion, gan arwain at “foneddigeiddio” llawer o ardaloedd.
Roedd o hefyd yn nodi bod adolygiad tair blynedd a hanner yn rhy hir, a bod angen adolygiad “radical a phellgyrhaeddol”.
Adolygiad
Mae Pwyllgor y Cynllun Datblygu Lleol, felly, wedi cefnogi cyflymu’r broses o adolygu, gan ddechrau gydag ymgynghoriad cyhoeddus chwe wythnos sy’n dechrau ar Dachwedd 1.
Yn dilyn hynny, mae’r pwyllgor yn gobeithio cyflwyno’r dogfennau swyddogol i Lywodraeth Cymru fel bod modd dechrau’r adolygiad cyn gynted â mis Mawrth 2022.