Bydd protest ‘Digon yw Digon’ yn erbyn achosion diweddar o sbeicio diodydd yn cael ei chynnal yn Aberystwyth nos Fawrth (Hydref 26).
Mae’r broest, fydd yn cael ei chynnal ger y pier am 9 o’r gloch, wedi’i threfnu gan Gymdeithas Ryddfrydwyr Prifysgol Aberystwyth.
Mae’n dilyn arfer newydd o chwistrellu dioddefwyr â hylif yn erbyn eu hewyllys.
Yn ôl Heddlu Dyfed-Powys, maen nhw’n ymchwilio i achos posib yn Aberystwyth yr wythnos ddiwethaf ac mae Joe Thomas, trefnydd y brotest, yn dweud bod y cynnydd diweddar mewn achosion wedi codi ofn ar bobol, ac ar fenywod yn benodol.
Yn ôl ffigurau’r BBC yn 2019, roedd mwy na 2,600 o adroddiadau o sbeicio diodydd wedi bod yng Nghymru a Lloegr ers 2015, ac roedd 72% o’r dioddefwyr yn fenywod.
Ymhlith y mesurau sy’n cael eu hawgrymu gan y protestwyr mae stribedi profi diodydd mewn bariau a chlybiau nos, mynediad i gloriau ar gyfer diodydd mewn lleoliadau, mwy o wiriadau diogelwch a dedfrydau llymach i’r rhai sy’n sbeicio diodydd.