Mae myfyriwr o Brifysgol Bangor wedi rhannu ei brofiadau o ddysgu Cymraeg yn rhugl mewn llai na dwy flynedd.

Daw James Horne yn wreiddiol o Halifax yn Swydd Efrog, ac erbyn hyn mae’n gwneud cwrs ymarfer dysgu uwchradd i addysgu Ffrangeg trwy gyfrwng y Gymraeg.

Fe gafodd James ei ysbrydoli i ddysgu’r iaith ar ôl iddo ddod i’r brifysgol ym Mangor i astudio Ffrangeg, Sbaeneg ac Almaeneg mewn gradd gyfun.

Roedd o wedi bod yn dysgu’r iaith ar gyrsiau yn y Brifysgol, sy’n cael eu trefnu ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Taith i’r ddinas dysg

Doedd James Horne ddim wedi bwriadu dod i Fangor pan oedd yn y chweched dosbarth, ond fe wnaeth ymweliad â’r ddinas ar gyfer diwrnod agored newid ei feddwl.

“Mi wnes i ymweld â Bangor yn y mis Ebrill cyn fy arholiadau Lefel A, ac mi wnes i feddwl ‘oh my gosh, mae’r lle yma yn anhygoel’,” meddai.

“Yn dilyn hynny, mi wnes i newid fy ffurflen UCAS a rhoi Bangor ar y brig!”

Prifysgol Bangor

Yr arwyddion cyntaf

Roedd clywed a gweld y Gymraeg hefyd yn denu James, sydd â chariad at ddysgu ieithoedd.

“Dw i’n cofio’r daith yna i Fangor, a’r peth cyntaf wnes i sylwi arno oedd yr arwyddion,” meddai.

“Ro’n i wir isio gwybod beth oedden nhw’n ei ddweud, a dw i’n cofio trio ynganu ‘ysbyty’.

“Mae’n rhyfedd edrych yn ôl ar hynny, gan ei fod wir yn syml iawn!

“Ar ôl i mi ddechrau yn y brifysgol, dw i’n cofio clywed y Gymraeg am y tro cyntaf mewn archfarchnad.

“Ro’n i’n meddwl i ddechrau mai Saesneg oedd o, ond yna mi wnes i stopio i ganolbwyntio a gwrando yn iawn, a phenderfynu nad oeddwn i yn ei deall gan mai Cymraeg oedd o.

“Am wn i hefyd, gan fy mod i yn dŵad o Loegr, roedd gen i mindset gwahanol a doeddwn i ddim yn gwybod fod y Gymraeg yn bodoli fel iaith fyw.

“Mi wnes i licio ei sŵn o’r dechrau, ond ar y pryd, doeddwn i ddim eisiau ei dysgu gan fy mod i’n barod yn astudio tair iaith arall.”

Y cyfnod clo

Fe sylweddolodd James ar ôl blwyddyn o astudio bod tair iaith yn ormod, felly fe wnaeth ollwng yr elfen Sbaeneg o’i gwrs.

Cyn iddo allu manteisio ar flwyddyn dramor yn yr Almaen fel rhan o’i gwrs, daeth y cyfnod clo ar ddechrau 2020.

Fe achosodd hynny iddo ollwng Almaeneg o’i radd hefyd, ac yn dilyn hynny, fe benderfynodd roi cynnig ar ddysgu Cymraeg.

“Dw i wrth fy modd yn dysgu ieithoedd, felly pan wnes i ollwng Almaeneg o fy ngradd, mi wnes i ddarganfod y Gymraeg a dechrau ei dysgu o ddifri,” meddai.

“Dw i’n dal i gamu trwy’r diwylliant ac yn dod ar draws mwy a mwy o hanes am beth mae’r Gymraeg wedi goresgyn.

“Mae’n ddiddorol pan dw i’n siarad efo dysgwyr eraill, gan ein bod ni’n teimlo fel tasen ni ar ben wal yn gallu gweld y ddwy ochr.

“Ro’n i un ochr i’r wal, a rŵan dw i ar yr ochr arall.

“Yn amlwg, gan ’mod i’n dod o Loegr, mae gen i fy ochr Saesneg ond dw i’n falch mod i’n gallu dringo’r wal i’r ochr draw.”

Barddoni yn Gymraeg

Ar ôl dod yn rhugl, mae James wedi dechrau barddoni yn y Gymraeg a chystadlu yn yr Eisteddfod AmGen eleni.

“Dw i’n berson sy’n cyffroi’n hawdd, ond weithiau dw i’n rhy gyffrous felly dw i’n hoffi ’sgwennu i reoli hynny,” meddai.

Arwydd mawr 'Eisteddfod' ar y Maes
A fydd James yn Brifardd neu Brif Lenor yn yr Eisteddfod yn y dyfodol?

“Dw i ddim yn darllen llawer o farddoniaeth ond dw i’n licio sgwennu.

“Dw i’n ysgrifennu pan dw i mewn tymer dda neu mewn tymer ddrwg – unrhyw bryd pan fydd gen i ormod o unrhyw emosiwn.”

Y dysgwr yn dysgu

Ar ôl dechrau ei gwrs ymarfer dysgu eleni, mae James yn rhannu ei ddyheadau i’r dyfodol.

“Dw i’n edrych ymlaen at rannu beth dw i’n ei wybod efo disgyblion er mwyn ei gwneud hi’n haws i fyfyrwyr ddysgu iaith,” meddai.

“Ro’n i’n fyfyriwr od, oedd ddim yn gallu dysgu yn y ffordd draddodiadol. Ac mi fydda i’n gwybod sut i helpu myfyrwyr fel yna.

“Dw i hefyd yn edrych ymlaen at fyw fy mywyd trwy gyfrwng y Gymraeg.”

Mae hi hefyd yn Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg ar Radio Cymru‘r wythnos hon, ac mae mwy o wybodaeth am yr amserlen isod.

Cyhoeddi rhaglen Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg ar Radio Cymru

Yn rhan o’r wythnos, bydd lleisiau cyfarwydd y comedïwr Noel James a’r canwr Wynne Evans i’w clywed ar yr orsaf