Mae ymgyrchwyr amgylcheddol yn galw ar Gyngor Gwynedd i weithredu er mwyn lleihau allyriadau carbon.
Bydd grŵp lleol Gwrthryfel Difodiant (Extinction Rebellion) yn cynnal diwrnod o ymgyrchu gyferbyn â Pontio ym Mangor ddydd Sadwrn (16 Hydref) er mwyn galw am newid.
Yn ôl un o’r ymgyrchwyr, Helen Mcgreary, mae angen i Gyngor Gwynedd stopio rhoi caniatâd i Bwerdai Nwy yn y sir, a thynnu buddsoddiadau eu cronfa pensiynau oddi wrth gwmnïau tanwydd ffosil.
Mae Cronfa Bensiwn Gwynedd yn rheoli dros £2 biliwn ar gyfer gweithwyr megis rhai’r cyngor sir a chynghorau tref, Parc Cenedlaethol Eryri, a Grŵp Llandrillo Menai.
Yn ôl grŵp XR mae gan y gronfa dros £50 miliwn wedi’i fuddsoddi mewn tanwydd ffosil.
“Gweithredu”
Bydd y digwyddiad ym Mangor yn rhan o’r digwyddiadau sy’n arwain at Gynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig yng Nglasgow fis nesaf.
Fel rhan o’r ymgyrchu, bydd deiseb yn cael ei lansio yn galw ar Gyngor Gwynedd i ddad-fuddsoddi eu pensiynau oddi wrth danwydd ffosil, a’u hannog i gefnogi pwerdai ynni adnewyddadwy.
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Cyngor Gwynedd wedi rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer pwerdai nwy yng Nghaernarfon a Bangor, ac mae disgwyl penderfyniadau ynghylch un arall ym Mhorthmadog.
“Yn 2019 fe wnaeth Cyngor Gwynedd ddatgan bod Argyfwng Hinsawdd, a oedd yn gynnydd gwych tuag at fynd i’r afael â’n ôl-troed carbon,” meddai Helen Mcgreary, sy’n athrawes ddawns ac ymgyrchydd o Fangor.
“Ond rhaid i hyn gael ei gefnogi gyda gweithredu.
“Rydyn ni angen stopio rhoi caniatâd i Bwerdai Ynni yn y sir, ac i’r Cyngor dynnu arian eu cronfa bensiwn allan o gwmnïau tanwydd ffosil.”
“Gweithredu’n sydyn”
Dywedodd Alison Shaw, athrawes wyddoniaeth wedi ymddeol o Fethesda, bod “dim posib dadlau’r” dystiolaeth ein bod ni’n “anelu tuag at lanast amgylcheddol”.
“Fe wnaeth Cyngor Gwynedd ddatgan bod Argyfwng Hinsawdd yn 2019, ond maen nhw’n parhau fel yr arfer, yn parhau i gefnogi a buddsoddi mewn tanwydd ffosil, pan gallai ynni adnewyddadwy gael ei annog,” meddai Alison Shaw.
“Mae storfeydd ar gyfer ynni gwynt, solar ar hydro yn dda iawn y dyddiau hyn, a dyna’r dyfodol.
“Mae’n amser i Wynedd symud gyda’r oes, a chyflawni ei haddewidion: dad-fuddsoddi mewn tanwydd ffosil a stopio adeiladu pwerdai nwy.”
Ychwanegodd Jemima Beath, myfyrwraig o Borthaethwy, bod argyfwng Covid wedi “dangos ein bod ni’n gallu gweithredu’n sydyn mewn argyfwng”.
“Mae’n amser i drin yr argyfwng hinsawdd fel yr argyfwng ydyw!
“Pan fydd y Trychineb Hinsawdd yn taro bydd hi’n rhy hwyr. Mae llifogydd wastad wedi digwydd yng Ngwynedd, ond mae pa mor aml mae hynny’n digwydd nawr, a’i ddifrifoldeb, yn gysylltiedig â newid hinsawdd, does dim amheuaeth.”
“Asedau cynaliadwy”
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd, eu bod nhw’n “gweithio ers peth amser” i sicrhau bod Cronfa Bensiwn Gwynedd, eu hymgynghorwyr a’u rheolwyr asedau yn edrych i fuddsoddi mewn asedau cynaliadwy.
“Rydym wedi gofyn i’n rheolwyr asedau ymgysylltu gyda chwmnïau o ran eu cynlluniau ar gyfer dyfodol carbon isel. Drwy hyn, mae’r Gronfa Bensiwn wedi rhoi pwysau ar gwmnïau i gynyddu ymdrechion yn y maes pwysig hwn,” meddai.
“Mae Pwyllgor Pensiynau’r Cyngor wedi trafod materion amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu (‘ESG’) yn rheolaidd.
“Yng nghyfarfod Tachwedd 2018, penderfynodd y Pwyllgor Pensiynau ddiwygio Datganiad Strategaeth Buddsoddi’r Gronfa i nodi ein hegwyddorion buddsoddi cyfrifol. Mae’r Polisi Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethu yma’n amlinellu’r – “angen i ystyried y risgiau penodol sy’n codi o newid yn yr hinsawdd wrth ystyried buddsoddiadau.”
“Mae buddsoddi cyfrifol yn fater sy’n cael sylw ym mhob cyfarfod o’n panel buddsoddi, lle rydym yn trafod gyda rheolwyr asedau sy’n buddsoddi ar ran Cronfa Bensiwn Gwynedd.
“Mae cynlluniau parhaus ar y gweill gan y rheolwyr asedau yma i wella eu hôl troed carbon ac mae Cronfa Bensiwn Gwynedd yn cyd-weithio gyda nhw er mwyn gweithredu’r cynlluniau yma.
“Mae Cronfa Bensiwn Gwynedd wedi cymryd gwir gamau yn y maes yma drwy gydweithio gyda’r rheolwyr asedau. Yn Chwefror 2021 symudodd 12% o Gronfa Gwynedd i gronfa carbon isel pellach gyda Black Rock sydd yn sgrinio tanwydd ffosil cyn yr optimeiddio carbon isel, ac felly yn lleihau allyriadau carbon ymhellach o 44%. Yn ogystal, mae Baillie Gifford wedi datblygu cronfa Paris Aligned sydd yn dad-fuddsoddi o gwmnïau echdynwyr tanwydd ffosil ac rydym wrthi’n symud asedau i’r gronfa yma, a cheir troshaen ar nifer o’n cronfeydd wedi’i pwlio gan Russell Investments sy’n lleihau’r ôl-troed carbon o 25%.
“Mae buddsoddi cyfrifol yn bwysig i bob cronfa Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, ac rydym yn gallu cydweithio drwy’r Local Authority Pension Fund Forum (LAPFF).
“Nod y LAPFF yw hyrwyddo’r safonau uchaf o lywodraethu corfforaethol i amddiffyn gwerth tymor hir cronfeydd pensiwn awdurdodau lleol. Mae’r Fforwm yn ymgysylltu’n uniongyrchol â channoedd o gwmnïau, a’u cadeiryddion.
“Gwneir hyn trwy adeiladu ymddiriedaeth a chael deialog dwy ffordd ynghylch cyfrifoldeb corfforaethol yn y meysydd o stiwardiaeth, risg hinsawdd, risg cymdeithasol a risg llywodraethu.”