Mae datblygiad tai yn Nhrefdraeth, Sir Benfro, wedi derbyn cyllid o £3.3 miliwn ar gyfer y cynllun.
Mae cwmni Morgan Homes eisoes wedi darparu 21 o dai fel rhan o ddatblygiad Church Fields, sydd wedi ei leoli ger traeth y Parrog, ac maen nhw’n bwriadu adeiladu 14 yn rhagor.
Dywed y cwmni y bydd y rhain yn dai fforddiadwy, ac yn cael eu datblygu ar gyfer Cymdeithas Tai Wales and West, ac o’r 21 tŷ sydd wedi cael eu hadeiladu gyntaf yn y datblygiad, mae pob un wedi cael eu gwerthu.
Fe ddaeth y cyllid newydd gan Gymdeithas Adeiladu Principality, sy’n cydweithredu â Morgan Homes am y tro cyntaf.
“Agenda amgylcheddol”
Dywedodd Uwch-reolwr Cysylltiadau Principality, James Ford eu bod yn falch o gefnogi Morgan Homes “sydd wedi dod â chartrefi newydd o safon i’r gymuned.”
“Mae darparu’r safle hwn wedi bod yn rhyfeddol pan ystyriwch yr heriau y mae’r 18 mis diwethaf wedi’u cyflwyno i gymdeithas, ond mae hyn yn dangos yr arbenigedd y mae Morgan Homes wedi’i ennill dros y blynyddoedd lawer o adeiladu tai.
“Gwnaeth agenda amgylcheddol Morgan Homes argraff arnaf hefyd, a’u strategaeth i ddarparu tai cynaliadwy a ffyrdd newydd arloesol o adeiladu i helpu i leihau eu hôl troed carbon.
“Mae’r Gymdeithas wedi ymrwymo i farchnad dai Cymru ac yn ymwybodol o’r rôl y gallwn ei chwarae i helpu i gefnogi’r anghenion tai ledled Cymru gyfan.”
Sefyllfa ‘drychinebus’
Yn ôl ym mis Awst, fe wnaeth ymgyrchwyr ddringo i gopaon Cymru i dynnu sylw at effeithiau ail gartrefi ar gymunedau.
Dywedodd un o’r dringwyr y diwrnod hwnnw, Hedd Lewis, fod y sefyllfa dai yn “drychinebus” yn Nhrefdraeth, a gweddill gogledd Sir Benfro.
Roedd prisiau’r holl dai sydd wedi eu hadeiladu yn Church Fields hyd yn hyn yn dechrau ar £300,000, sydd tu hwnt i beth mae llawer o bobol yn gallu ei fforddio.
“Does dim gobaith i bobol leol fyw yn eu milltir sgwâr,” meddai Hedd Lewis wrth golwg360.
“Mae goblygiadau hynny – yn ieithyddol, cymdeithasol ac economaidd – yn mynd i fod yn drychinebus.
“Rydyn ni’n gweld disgyblion yn gadael ein hysgolion ni’n rhugl yn y Gymraeg, ond allan nhw ddim fforddio aros yma a magu teulu.
“Mae e’n rhwygo’r galon mas o’n cymunedau ni ac mae’n mynd i ladd yr iaith.”