Mae cynghorydd yng Ngwynedd wedi honni mai’r nifer uchel o ail dai ym Mhen Llŷn sydd wedi achosi’r gostyngiad “annheg” yn nifer y cynghorwyr yn y sir.

Yn yr etholiadau lleol fis Mai, bydd nifer y seddi ar Gyngor Gwynedd yn gostwng o 75 i 69, yn dilyn argymhelliad gan y Comisiwn Ffiniau.

Yr ardaloedd sy’n cael eu heffeithio fwyaf fydd rhannau o Lŷn a Bangor, sydd â diffyg mewn pleidleiswyr cofrestredig.

Ond wrth siarad yng nghyfarfod llawn y Cyngor wythnos ddiwethaf, roedd un cynghorydd o Ben Llŷn yn awgrymu mai poblogrwydd yr ardal fel cyrchfan ail gartrefi oedd wedi achosi’r gostyngiad yn y rhan honno o Wynedd.

Roedd y Comisiwn Ffiniau yn dweud mai’r ffigyrau cofrestru oedden nhw wedi eu hystyried yn hytrach na phoblogaeth – i sicrhau bod maint wardiau o ran etholwyr yn fwy hafal i’w gilydd.

“Fydd y llwyth gwaith yn aruthrol”

Yn achos Llŷn, mae nifer o wardiau – yn cynnwys Morfa Nefyn a Thudweiliog, ac Abersoch a Llanengan – wedi cael eu huno.

Roedd y Cynghorydd Angela Russell, yr aelod dros Lanbedrog ac arweinydd y grŵp annibynnol, yn dweud bod Bangor a Llŷn yn cael “ergyd.”

“Bydd fy ward nawr yn cynnwys nid yn unig Llanbedrog, ond Mynytho a rhan o Langïan sy’n mynd i lawr i Nanhoron, ac mae hynny’n enfawr,” meddai.

“Bydd gennyn ni 69 o gynghorwyr yn gwneud gwaith 75, ac fe fydd y llwyth gwaith yn aruthrol.

Llanbedrog – sy’n uno â Mynytho i greu ward cyngor newydd

“Beth sy’n annheg, fel gyda Bangor a’u myfyrwyr, rydyn ni’n cael ein heffeithio gan ail gartrefi gan eu bod nhw ddim yn pleidleisio.

“Er hynny, maen nhw’n dal i gyfrif ac yn gofyn i chi wneud pethau drostyn nhw yn yr un modd â phawb arall.

“Mae’n fwy na dyblu’r llwyth gwaith, ac mae’n gwneud ichi feddwl tybed sut y gallwch chi wneud cymaint a pharhau i wneud gwaith da ar yr un pryd.”

Pleidleisio

Er ei bod hi’n drosedd pleidleisio ddwywaith yn yr un etholiad, mae modd i’r rheiny sy’n gymwys bleidleisio mewn etholiadau lleol ar wahân, cyn belled bod eu cyfeiriadau cofrestredig ddim o fewn yr un ardal awdurdod lleol.

Er enghraifft, mae hynny’n golygu bod modd i rywun bleidleisio yn etholiad lleol Cyngor Gwynedd a Chyngor Croydon fis Mai nesaf.

Yn ôl y Comisiwn Etholiadol, er y gallai fod gan etholwyr hawl i gofrestru mewn mwy nag un cyfeiriad, rhaid eu hystyried yn ‘breswyl’ er mwyn bod yn gymwys – sydd yn y pen draw yn benderfyniad i bob Swyddog Cofrestru Etholiadol (ERO).

Wardiau ‘Aml-aelod’

Yn y cyfamser, cafodd y penderfyniad i gyflwyno mwy o wardiau aml-aelod ei feirniadu gan sawl cynghorydd, er bod y mater bellach wedi ei setlo.

Cafodd y penderfyniad ei basio gan Lywodraeth Cymru er gwaetha’r protestiadau gan Gyngor Gwynedd.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Wager y byddai’n arwain at “dangynrychiolaeth.”

“Mae’n siomedig iawn, yn amlwg mae yna ddemograffeg unigryw gyda nifer fawr o fyfyrwyr sydd ddim yn cofrestru i bleidleisio’n aml iawn,” meddai.

Y Cynghorydd Catrin Wager

“Mae hyn yn golygu y bydd elfen o dangynrychiolaeth ym Mangor nawr, ond mae problemau economaidd a llwyth gwaith yn gysylltiedig â meysydd myfyrwyr hefyd.

Tra bydd wardiau Glyder a Dewi yn y ddinas yn aros yr un fath, bydd wardiau Deiniol, Garth, Hendre, Hirael, Marchog a Menai yn cael eu cyfnewid am yr adrannau “Canol Bangor” a “Dwyrain Bangor”, a fydd yn ethol dau aelod yr un.