Mae o gwmpas 400 o yrwyr Arriva yng Ngogledd Cymru yn pleidleisio ynglŷn â streicio yn dilyn dadl dros gyflogau.
Bydd gyrwyr o chwe canolfan ac sydd hefyd yn aelodau o undeb Unite yn cael dweud eu dweud o heddiw, 11 Hydref, tan ddydd Mawrth, 26 Hydref.
Mae canolfannau Arriva yn y gogledd wedi eu lleoli yn Amlwch, Bangor, Penarlâg, Llandudno, Rhyl a Wrecsam.
Os yw’r aelodau’n pleidleisio o blaid streicio, gall hynny gychwyn cyn gynted â mis Tachwedd, gan darfu’n sylweddol ar wasanaethau bysiau ar draws y rhanbarth.
Dywedodd Jo Goodchild, Swyddog Rhanbarthol Unite yng Nghymru, bod ganddyn nhw “ddim dewis” ond pleidleisio yn erbyn penderfyniad Arriva i beidio cyflwyno codiadau cyflog digonol.
“Arwyr y pandemig”
“Mae ein gyrwyr bysiau wedi bod yn wir arwyr yn ystod y pandemig,” meddai.
“Maen nhw wedi chwarae rhan hanfodol wrth gadw’r wlad i fynd, gan sicrhau bod staff ein hysbytai a gweithwyr allweddol eraill yn gallu cyrraedd y gwaith yn ystod y pandemig.
“Yn druenus, er gwaethaf eu holl ymdrechion, maen nhw wedi bod yn destun cam-drin geiriol, weithiau hyd yn oed cam-drin corfforol gan deithwyr wrth geisio sicrhau diogelwch pawb wrth deithio.
“Mae cyflog isel ac amodau gwaith anodd wedi arwain at nifer sylweddol o brinder gyrwyr bysiau ledled Gogledd Cymru ac mae’r cyhoedd yn wynebu toriadau i wasanaethau bysiau yn wythnosol.
“Mae hyn i gyd oherwydd nad yw Arriva a chwmnïau eraill yn talu cyfradd deg am y swydd.
“Mae ein haelodau wedi cael digon. Mae’n bryd i Arriva atal y pydredd, meddwl eto a rhoi’r cyflog haeddiannol i’n haelodau.”
“Gweithio gyda’n gilydd”
Fe roddodd llefarydd o gwmni Arriva ymateb i’r trafodaethau dros streicio.
“Rydyn ni’n parhau i gymryd rhan mewn trafodaethau gyda’n partneriaid undeb llafur ac yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddod i gytundeb,” meddai.
“Wrth i’r wlad adfer o Covid a dychwelyd i drafnidiaeth gyhoeddus, mae’n bwysig ein bod ni’n gweithio gyda’n gilydd i ddarparu’r gwasanaeth gorau posib i’n cwsmeriaid.”