Mae’r nifer o ymwelwyr i ddociau Gwynedd wedi cynyddu’n sylweddol yn ystod 2021.
Daw hyn o ganlyniad i’r cyfyngiadau ar deithio dramor, sydd wedi golygu bod mwy o bobol yn cael gwyliau gartref yn y Deyrnas Unedig.
Yn dilyn blwyddyn ddiffaith yn 2020, mae arwyddion o adferiad wedi ymddangos eleni, a hynny ar ôl degawd o ostyngiad cyffredinol yn niferoedd deiliaid cychod.
Er hynny, roedd yr adroddiad yn dangos bod mwy o bobol ar gyfyl harbyrau yn anwybyddu rheolau Covid-19, yn taflu ysbwriel ac yn sarhau staff dros yr haf.
Ffigyrau’r adroddiad
Harbwr Porthmadog oedd â’r cynnydd mwyaf, gyda 112 allan o’r 238 lle wedi eu llenwi eleni, o’i gymharu â 64 yn 2020.
Er bod dim newid yn Harbwr Pwllheli, roedd Hafan Pwllheli wedi gweld niferoedd yn cynyddu i 378, o’i gymharu â’r 299 cwch oedd yno yn 2019.
Fe wnaeth Aberdyfi a Bermo ddangos cynnydd ar eu cofnodion y llynedd.
Yr unig harbwr i ddangos gostyngiad oedd Doc Fictoria yng Nghaernarfon, gyda 89 cwch yno eleni o’i gymharu â’r 90 oedd yno’r llynedd.
Fe gafodd yr adroddiad ei lunio gan harbwrfeistr Porthmadog, a’i gyflwyno i Bwyllgor Ymgynghorol Harbyrau Cyngor Gwynedd.
“Ar y cyfan, wrth ystyried holl harbyrau Cyngor Gwynedd, bu cynnydd yn nifer y cwsmeriaid dros y flwyddyn ddiwethaf,” medd yr adroddiad.
“Mae’r cynnydd yn nifer y llongau sydd wedi’u hangori yn yr harbyrau yn adlewyrchu rhyddhad graddol y cyfyngiadau clo Covid-19 yng Nghymru.”
Pryderon
Er bod yr incwm ychwanegol yn rhoi hwb i goffrau cynghorau yn ogystal â’r economi dwristaidd leol, roedd y cynnydd mewn staff yn cael eu cam-drin yn destun pryder.
“Mae’r harbwr wedi gweld nifer sylweddol o ymwelwyr â’r ardal yn ystod eleni, oherwydd effaith cyfyngiadau Coronavirus ar deithio dramor,” medd yr adroddiad.
“Mae staff yr harbwr wedi bod yn gwylio’r glannau yn gyson, er mwyn sicrhau diogelwch y bobol sy’n mwynhau’r amgylchedd, gyda phatrolio rheolaidd yn digwydd yn Sianel Porthmadog.
“Er bod mwyafrif llethol yr ymwelwyr yn parchu amgylchedd yr harbwr, roedd cynnydd amlwg yn nifer yr achosion o staff a gafodd eu cam-drin gyda geiriau neu ystumiau wrth iddyn nhw gyflawni eu dyletswyddau.
“Hefyd, mae’r taflu sbwriel o amgylch yr harbwr yn ddiangen, ac anwybodaeth am yr epidemig Covid-19 presennol gan rai unigolion wedi bod yn destun pryder.”
Ymateb Cyngor Gwynedd
Fe ymatebodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd i’r ffigyrau yn yr adroddiad.
“Mae’n galonogol iawn nodi bod nifer y cychod sydd wedi’u hangori yn nociau a marinas Gwynedd wedi cynyddu yn 2021,” meddai.
“Roedd y llynedd yn flwyddyn anodd i’r sector morwrol ac i forwyr yn gyffredinol ac rydyn ni’n falch bod hyder wedi’i adfer a bod morwyr yn dychwelyd i gychod.
“Rydyn ni’n gobeithio y bydd y duedd hon yn parhau yn 2022 ac y bydd ein cwsmeriaid yn parhau i fwynhau eu gweithgareddau cychod ar arfordir Gwynedd.”