Mae gollwng sbwriel yn anghyfreithlon wedi bod ar gynnydd yng Ngheredigion yn ystod y pandemig.

Yn ôl adroddiad, roedd 375 o achosion wedi’u cofnodi yn 2020-21 o’i gymharu â 308 yn y flwyddyn flaenorol.

Ar ben hynny, mae eisoes 106 achos o ollwng yn anghyfreithlon wedi bod yn y pedwar mis rhwng Ebrill 1 ac Awst 18 eleni.

Dywed swyddogion o Gyngor Ceredigion eu bod nhw’n awyddus i fynd i’r afael â’r broblem, ac yn fwy parod i ddefnyddio technoleg i ddal troseddwyr.

’16 mis heriol’

Mae Heddwyn Evans, swyddog iechyd yr amgylchedd y Cyngor, yn dweud ei bod hi wedi bod yn 16 mis heriol i’r adran, gan amlinellu’r canllawiau wrth ddelio â throseddau o’r fath yn y sir.

Dywed ei bod hi’n “hynod o anodd ymchwilio a chosbi tipio anghyfreithlon,” a’u bod nhw’n aml yn dibynnu ar dystiolaeth llygad-dystion neu dystiolaeth sydd wedi ei gadael ymysg gwastraff.

Er hynny, mae’n nodi bod mwy o gamerâu yn cael eu defnyddio wrth i “dechnoleg monitro ddod yn rhatach a mwy dibynadwy”.

Mae’r camerâu CCTV wedi cael eu gosod ar adegau gwahanol mewn ‘mannau problematig’ lle mae troseddau cyson.

Roedden nhw wedi rhoi dau hysbysiad cosb benodedig ac un rhybudd syml yn 2020/21, o’i gymharu â chwe hysbysiad a dim un rhybudd yn 2019/20.

Wrth ymateb, dywed cynghorwyr eu bod nhw eisiau mwy o wybodaeth am fanylion y cosbau hyn.