Mae rhai pobol leol yn parhau i golli allan ar dai cymdeithasol er gwaethaf cyflwyno polisi newydd sydd wedi’i gynllunio i flaenoriaethu’r rhai sydd â chysylltiadau cryf â Gwynedd, yn ôl cynghorydd.

Cafodd y polisi tai newydd ei fabwysiadu gan gabinet y cyngor yn 2019 i sicrhau bod pobol leol yn cael mwy o ddewis wrth wneud cais am le ar y gofrestr i gael cartref cymdeithasol.

Ar y pryd pwysleisiwyd, er y dylid edrych ar yr achosion mwyaf brys yn gyntaf, ei fod wedi’i gynllunio i gryfhau llaw’r rhai â chysylltiadau cymunedol cryfach wrth parhau i fodloni rhwymedigaethau cyfreithiol.

Ond mae Gareth Williams, sy’n cynrychioli ward Botwnnog fel aelod Llais Gwynedd, wedi cwestiynu effeithiolrwydd y polisi hwn, gan honni bod teuluoedd lleol wedi parhau i golli allan ar draul eraill heb unrhyw gysylltiadau amlwg â’i bentref.

“Camarwain”

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Williams wrth y Gwasanaeth Adrodd Democratiaeth Leol: “Pan gafodd y polisi ei fabwysiadu roeddwn o dan yr argraff mai pwrpas y system fandio newydd oedd blaenoriaethu teuluoedd lleol oedd ar y rhestr aros.

“Ond erbyn hyn rwy’n teimlo bod cynghorwyr ac aelodau o’r cyhoedd wedi cael eu camarwain.

“Yn anffodus, nid dim ond ym Motwnnog mae hyn wedi digwydd- mae cynghorwyr eraill hefyd wedi dweud wrthyf ei bod yn ymddangos bod gweithwyr o’r tu allan i’r sir, ac yn wir tu allan i Gymru, wedi cael blaenoriaeth dros bobl sydd â chysylltiadau hir sefydlog.

“Ni ddylai hyn ddigwydd. Rydym yn wynebu sefyllfa enbyd o ran ail gartrefi, sydd wedi helpu i yrru prisiau tai ymhell allan o gyrraedd llawer o bobol leol.

“Rwy’n teimlo ei bod hi’n bwysicach fyth ein bod yn cael pethau’n iawn mewn wardiau gwledig, fel fy un i, achos yn wahanol i’r trefi mwy, nid yw cartrefi cymdeithasol ar gael yn aml iawn.

“Pa gyfle sydd i’r genhedlaeth nesaf sicrhau tai yn eu cymunedau eu hunain pan fydd hyd yn oed y cyngor, sydd fel arfer yn ymfalchïo mewn rhoi pobl Gwynedd yn gyntaf, yn eu siomi fel hyn?”

Sefydlwyd Partneriaeth Cofrestr Tai Cyffredin Gwynedd yn 2012 a’i gweinyddu gan Dîm Opsiynau Tai Cyngor Gwynedd ar ran Cartrefi Cymunedol Gwynedd, Grŵp Cynefin a Thai Gogledd Cymru.

Yn flaenorol, roedd pedwar cofrestr tai ar wahân a phum polisi dyrannu gwahanol – cyfaddefodd yr awdurdod y gallai hyn achosi dryswch ac roedd yn “sefyllfa anfoddhaol”.

Yn unol â’r polisi newydd, mae’r rhai sydd wedi byw yng Ngwynedd am bum mlynedd neu fwy fel arfer yn cael eu hystyried yn ‘lleol’, ond mae’r rhai sydd mewn angen brys yn dal i gael blaenoriaeth gyffredinol.

‘96% o dai cymdeithasol i ymgeiswyr sydd â chysylltiad Gwynedd’

Wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: “Cyflwynwyd Polisi Dyrannu Tai Cyffredin newydd yng Ngwynedd y llynedd gyda’r nod o roi mwy o bwyslais ar flaenoriaethu pobol leol sydd angen tai.

“Ers cael ei gyflwyno, mae dros 96% o dai cymdeithasol wedi cael eu gosod i ymgeiswyr sydd â chysylltiad â Gwynedd.

“Caiff pob cais am dai ei ystyried yn unol â’r Polisi Dyrannu Tai a weinyddir gan y cyngor mewn partneriaeth â chymdeithasau tai lleol.

“Mae’r polisi yn sicrhau bod ceisiadau’n cael eu blaenoriaethu ar sail cyfuniad o angen am dai a chysylltiad â Gwynedd.

“Rhoddir blaenoriaeth i ymgeiswyr o fewn ardal berthnasol y cyngor cymuned, cyn ystyried wedyn i ymgeiswyr sydd ag angen tai sydd â chysylltiad Gwynedd.”