Mae Cyngor Ceredigion wedi cydnabod eu bod nhw’n monitro’r effeithiau ar gerbydau nwyddau trwm yn y sir.

Fe wnaeth pwyllgor archwilio’r Cyngor drafod ychwanegu swyddi gyrru lorïau HGV i’r gofrestr risgiau corfforaethol mewn cyfarfod heddiw (dydd Iau, Medi 9).

Fe wnaethon nhw nodi Covid-19 a newidiadau i reoli gwybodaeth fel y prif risgiau i’r proffesiwn.

Fe gododd y Cynghorydd Rowland Rees-Evans gwestiynau ynglŷn â “phrinder gyrwyr ar draws y wlad” ac er bod gwasanaethau yng Ngheredigion “i weld yn dal eu tir,” roedd yn bryderus am y problemau a all godi yn y dyfodol.

Dywedodd y Cynghorydd Elizabeth Evans, cadeirydd y pwyllgor, fod effeithiau ar wasanaethau casglu sbwriel y sir oherwydd prinder gyrwyr.

Mae’n bosib y byddai Brexit hefyd yn cael ei nodi fel risg pe bai swyddi gyrru HGV yn cael eu hychwanegu i’r gofrestr, yn ôl yr Athro Ian Rolfe.

“Popeth yn cyfuno” i achosi’r argyfwng

Fe ddywedodd Graham Jenkins o gwmni cludo DJ Jenkins & Son wrth golwg360 ym mis Awst nad oedd y sefyllfa “ddim yn mynd i wella” i gerbydau cludo nwyddau.

“Mae hi’n ofnadwy o brysur ar y funud, mae fel petai fod pawb wedi dihuno ar yr un pryd,” meddai bryd hynny.

“Mae galw uchel ar hyn o bryd, ac mae hynny’n cael ei waethygu gan fod llawer wedi gadael y maes – o ran cwmnïau ac o ran gyrwyr.

“Mae Brexit hefyd wedi effeithio oherwydd bod llawer o bobol Ewropeaidd wedi mynd yn ôl adref i weithio.

“Dw i’n credu bod popeth yn cyfuno â’i gilydd i achosi hyn.”