Mae etholaeth Arfon am gael ei diddymu yn ôl cynlluniau newydd y Comisiwn Ffiniau.

Pe bai’r cynlluniau hynny’n cael eu cymeradwyo, byddai nifer y seddi yng Nghymru yn gostwng o 40 i 32 yn San Steffan.

Bydd ymgynghoriad yn digwydd dros yr wyth wythnos nesaf fel bod modd i’r cyhoedd leisio’u barn ar y ffiniau newydd.

O dan y cynlluniau, byddai trefi Bangor a Bethesda yn ymuno â threfi fel Conwy, Llanrwst a Llandudno i ffurfio etholaeth newydd.

Ar y llaw arall, byddai tref Caernarfon, a phentrefi fel Y Felinheli, Penygroes a Llanberis yn cael eu hychwanegu at etholaeth Dwyfor Meirionnydd.

Byddai’r etholaeth hwnnw yn ymestyn i waelod Gwynedd, gan gynnwys trefi fel Dolgellau, Y Bala a Thywyn.

Hywel Williams a Liz Saville-Roberts o Blaid Cymru yw’r aelodau seneddol presennol dros Arfon a Dwyfor Meirionnydd, ac mae’n debygol y byddai’n rhaid i un o’r aelodau hynny ildio eu sedd.

Mae Liz Saville-Roberts, sy’n arwain Plaid Cymru yn San Steffan ar hyn o bryd, yn credu mai dyma’r “cam diweddaraf ar lwybr y Torïaid i gipio rheolaeth yn ôl i San Steffan a lleihau llais democrataidd Cymru.”

Mae’n debyg hefyd y bydd tref Bangor yn cael ei hollti’n ddwy o dan y cynlluniau newydd, gydag ardal Penrhosgarnedd, sy’n cynnwys Ysbyty Gwynedd, yn ymuno â Dwyfor Meirionnydd.

Ar hyn o bryd, mae’n anodd gwybod sut effaith fydd hollti Arfon yn ei gael ar dirwedd wleidyddol Cymru.

Mae’r rhan fwyaf o gynghorwyr sir Bangor yn aelodau o Blaid Cymru, ond mae’r ddinas wedi cael ei thargedu gan y Blaid Lafur yn y gorffennol – yn cynnwys yn 2019, pan benderfynodd yr arweinydd Jeremy Corbyn fynd yno i hyrwyddo ymgyrch y blaid.

Mae posib felly y bydd yr etholaeth newydd, sy’n cynnwys trefi Conwy a Llandudno, yn ennill sedd i Lafur, gan achosi i Blaid Cymru a’r Ceidwadwyr golli sedd yng Nghymru.

Ar y llaw arall, bydd etholaeth newydd Dwyfor Meirionnydd fwy na thebyg yn pleidleisio am aelod o Blaid Cymru wrth edrych ar batrymau pleidleisio hanesyddol, ond fe all hynny newid wrth gwrs.