“Bydd Llafur yn ymgyrchu hyd y diwedd” oedd neges Jeremy Corbyn yn ystod ei ymweliad â Chymru dros y penwythnos.

Fe fu arweinydd y blaid yn teithio o amgylch Cymru ddoe (dydd Sadwrn, Rhagfyr 8) a heddiw (dydd Sul, Rhagfyr 9), wrth i’r blaid ganolbwyntio’u hegni ar nifer o seddi ymylol.

Fe fu’n annerch hyd at 400 o bobol ym Mhrifysgol Bangor heddiw, drannoeth ei ymweliad â Phafiliwn y Patti yn Abertawe.

Mae gan Blaid Cymru fwyafrif o 92 yn Arfon, un o’r etholaethau mae Llafur yn eu targedu yng Nghymru.

“Y Blaid Lafur sy’n ennill yr etholiad hwn ledled Cymru oherwydd mae gyda ni bobol ar y llawr, yn curo ar ddrysau ac yn gwrando ar bobol,” meddai ym Mangor.

Mae’n addo rhoi terfyn ar bolisïau llymder a dileu’r Credyd Cynhwysol “creulon”, ac mae’n dweud ei fod e wedi diflasu yn sgil y banciau bwyd a chytundebau oriau sero.

“Y peth sylfaenol yw, sut ddyfodol fydd gyda ni?

“Onid ydych chi eisiau llywodraeth sy’n gwerthfawrogi pawb yn ein cymdeithas?”

Y Gwasanaeth Iechyd

Wrth drafod y Gwasanaeth Iechyd, roedd ei neges yn glir, sef nad yw’r gwasanaeth a gafodd ei sefydlu gan Aneurin Bevan ar werth.

“Mudiad sydd wedi cyflawni cymaint ac rwy’n credu mai ein prif gyflawniad yw’r Gwasanaeth Iechyd,” meddai.

“Ewch ati hyd y diwedd, hyd at 10 o’r gloch nos Iau, ac yna ar ddydd Gwener, [fe gewch chi] anrheg Nadolig cynnar,” meddai wedyn.