Mae’r paratoadau munud olaf yn mynd yn eu blaen ar gyfer Gŵyl Bro’r penwythnos hwn.
Bydd yr ŵyl yn rhoi cyfle i gymunedau ddod at ei gilydd unwaith eto i drefnu digwyddiadau, sydd wedi bod bron yn amhosib yn ystod y pandemig.
Hyd yn hyn, mae 26 o ddigwyddiadau wedi cael eu trefnu ar draws cymunedau Bro360.
Mae cymuned y Felinheli am gynnal bob math o weithgareddau ar gyfer bob oedran i gyd-fynd â Gŵyl Bro.
Yn ystod y dydd, bydd sesiynau gan y bardd Osian Owen, yr awdures a’r actores Leisa Mererid, a’r ffotograffydd Kristina Banholzer.
Maen nhw hefyd am gynnal picnic mawr i roi cyfle i bobol leol gael cymdeithasu, a helfa drysor o amgylch y pentref.
Bydd cerddoriaeth fyw gan y cantorion Dylan a Neil yn hwyrach ymlaen yn y prynhawn.
Gwerthfawrogi’r gymuned
Yn ôl Anwen Roberts, trefnydd digwyddiad y Felinheli, mae cyfnod y pandemig wedi bod yn anodd iddi hi’n benodol, felly mae’n deimlad da gallu trefnu pethau i’r gymuned unwaith eto.
“Mae wedi bod yn amser anodd i fi, achos wnes i golli fy mam – ond doedd hynny ddim o Covid,” meddai wrth golwg360.
“Wnes i golli fy ffordd ychydig bach, felly mae trefnu hyn wedi rhoi rhyw bwrpas i fi.
“Dw i’n gobeithio y gwneith hwn ddod â phobol allan, achos fydd lot o bobol wedi colli hyder a meddwl eu bod nhw ddim yn gallu cymdeithasu dim mwy.
“Bydd o’n gyfle i ni werthfawrogi’r gymuned a sut mae pawb wedi cefnogi ei gilydd.
“Mae mor neis gweld cymaint yn barod i helpu – dw i’n edrych ymlaen rŵan!”
‘Normalrwydd’
Gyda’r cyfyngiadau’n cael eu llacio a digwyddiadau fel hyn yn gallu cael eu trefnu, bydd ambell un yn bryderus am fynd allan ymysg pobol eto, ond mae Anwen Roberts yn hyderus y bydd pobol yn hapus i ddod i’w digwyddiad.
“Mae pawb yn wahanol,” meddai.
“Yn yr awyr agored, mae’r rhan fwyaf o bobol yn teimlo’n reit saff.
“Rydyn ni’n lwcus iawn yn Felin, gan fod pawb yn parchu ei gilydd drwy wisgo masg a chadw pellter.
“Dw i’n meddwl bod cymunedau clòs yn fwy tebygol o barchu’r rheolau, felly fydd pobol yn teimlo’n well am fynd i bethau fel hyn o bosib.
“Yn y bôn, fydd pobol eisiau mwy o normalrwydd erbyn hyn.”
Bydd modd dilyn y gorau o ddigwyddiadau Gŵyl Bro dros y penwythnos – un ai yn fyw neu ar holl dudalennau’r bröydd penodol.
Mae trefnwyr yn cael eu hybu i ddefnyddio technoleg i arddangos y digwyddiadau yn ddigidol hefyd.