Mae’r camau nesaf o ran y gwaith cynllunio i ddatblygu safle treftadaeth newydd Cymru wedi eu datgelu.
Fe gafodd Tirlun Llechi Gogledd Orllewin Cymru ei ddynodi’n Safle Treftadaeth UNESCO ar Orffennaf 28 eleni.
Mae Cyngor Gwynedd eisoes yn trafod â’i bartneriaid i sicrhau’r “budd gorau i gymunedau a busnesau Gwynedd i’r dyfodol”.
Prif amcan y cynllun yw cydnabod pwysigrwydd y diwydiant llechi a’i gymunedau, a rhoi rôl newydd i’r ardal drwy gyfrannu at dwf economaidd ac adfywiad cymdeithasol.
Maen nhw hefyd am i’r prosiectau sy’n rhan o’r safle hyrwyddo’r Gymraeg ac addysg am yr ardaloedd.
Camau nesaf
Yr Arglwydd Dafydd Wigley oedd Cadeirydd y Grŵp Llywio wnaeth arwain ar y gwaith o sicrhau statws UNESCO.
“Dros y misoedd nesaf, bydd partneriaid yn cytuno ar drefniadau gweithredu o’r newydd er mwyn sicrhau bod ein hamcan yn cael ei wireddu gyda chyfarfod cyntaf y Grŵp Llywio yn dilyn y dynodiad yng nghyfarfod mis Medi yma i gytuno ar ein rhaglen waith,” meddai.
“Eisoes mae’r gwaith o ddatblygu’r enwebiad wedi arwain at ddenu dros £1m o fuddsoddiad allanol mewn prosiectau pwysig sy’n adfywio ein cymunedau’n economaidd ac yn gymdeithasol trwy dreftadaeth a diwylliant – ac mae nifer fawr o brosiectau’n cael eu datblygu ar gyfer y dyfodol.
“Trwy’r prosiect LleCHi, bu cyfle i Gyngor Gwynedd arwain ar brosiect i gynnal gweithgareddau amrywiol megis llysgenhadon llechi ifainc, prosiectau celfyddydol yn ein hysgolion cynradd ac uwchradd, datblygu cynllun dehongli ar gyfer y safle cyfan ac ymyraethau celfyddydol fel murluniau lliwgar a thrawiadol mewn nifer o drefi a phentrefi llechi.
“Bydd y Cyngor a’i bartneriaid yn mynd ati yn awr i ddatblygu prosiect i olynu’r prosiect LleCHI a gyllidwyd trwy Gronfa Dreftadaeth y Loteri, Cyngor Gwynedd, Parc Cenedlaethol Eryri ac Arloesi Gwynedd Wledig.”