Mae Cyngor Gwynedd yn gweithio ar gynlluniau i ddiogelu dyfodol dau atyniad wedi iddyn nhw golli cyllidebau allanol.
Roedd adroddiad a gafodd ei gyflwyno i’r Pwyllgor Archwilio yn dweud bod angen datrysiadau tymor hir i adeilad Storiel ym Mangor ar ôl i ddyfodol yr adeilad fod o dan fygythiad.
Mae’r adroddiad hefyd yn trafod Amgueddfa Lloyd George yn Llanystumdwy, sydd hefyd wedi colli cyllid.
Mae cyllid gan y Loteri Genedlaethol ar gyfer adeilad Storiel bellach wedi dod i ben ac mae’r adroddiad yn nodi bod apêl yr adeilad yn dirywio gan nad yw’n cynhyrchu digon o incwm i gyflawni gweithgareddau.
Ail-agorodd yr hen galeri ac amgueddfa ym Mhlas yr Esgob Bangor fel Storiel yn 2016 yn dilyn gwaith adnewyddu gwerth £2.6m, a gafodd ei gyllido gan bartneriaeth rhwng Cyngor Gwynedd a Phrifysgol Bangor.
Mae’r adeilad rhestredig Gradd II yn dyddio’n ôl i tua 1500, ac felly dyna’r adeilad ail hynaf sy’n parhau i sefyll yn y ddinas.
Roedd Cronfa Dreftadaeth y Loteri hefyd wedi darparu £1.4m i adnewyddu’r adeilad.
Methu targedau
Er bod nifer addawol o ymwelwyr wedi i’r adeilad agor ei drysau, roedd “pryder” am y sefyllfa ariannol, gyda Storiel yn gorwario ar ei chyllideb o £72,000 erbyn diwedd blwyddyn ariannol 2018/19.
“Ers i gyllid grant y Loteri ddod i ben a rheolaeth y caffi wedi ei fewnoli, nid yw Storiel wedi gallu cyrraedd ei thargedau incwm,” meddai’r adroddiad i’r Pwyllgor Archwilio.
“Mae cynllun busnes pum mlynedd wedi ei sefydlu i gyrraedd targedau incwm newydd, ond oherwydd Covid-19 bydd angen adolygu a oes modd cyrraedd y targedau incwm.
“Mae’r caffi bellach wedi cau a bydd adolygiad o’r opsiynau ar gyfer y gofod yn cael ei gynnal.
Roedd yr adroddiad hefyd yn argymell yr angen i sefydlu’n ffurfiol Ymddiriedolaeth Storiel fel cyfrwng i godi arian ac adolygu ei weithredoedd, ac unwaith y byddai hynny mewn lle, byddai modd canfod ffynhonellau cyllid newydd.
Ymateb
Wrth ymateb i ganfyddiadau’r adroddiad, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: “Mae’r cyngor yn datblygu achos busnes ar gyfer y ddwy amgueddfa o ganlyniad i’r pandemig i flaenoriaethu gweithgaredd, ein cyfeiriad yn y dyfodol a modelau busnes yn y ddau leoliad.
“Rydyn ni’n rhagweld y bydd y dogfennau hyn yn helpu i fynd i’r afael â’r sefyllfa bresennol ac yn darparu llwybr ar gyfer cynaliadwyedd y cyfleusterau pwysig hyn yn y dyfodol.”