Mae Ifor ap Glyn wedi dweud wrth golwg360 ei fod yn gobeithio y byddai rhoi statws Safle Treftadaeth y Byd i ardaloedd chwarelyddol y gogledd yn sbardun i ailgysylltu pobol y bröydd hyn â’u treftadaeth.
Bydd Pwyllgor Treftadaeth y Byd UNESCO yn penderfynu a ydyn nhw am gymeradwyo’r cais ddiwedd y mis ond cyn hynny, bydd rhaglen Taith Lle-CHI ar S4C yn gyfle i ddathlu’r ardaloedd hyn.
O’r cais y daeth y syniad am brosiect er mwyn talu teyrnged i dreftadaeth “yr unig ddiwydiant trwm cyfan gwbl Gymraeg ei iaith” yn hanes y wlad.
Bardd Cenedlaethol Cymru fu’n curadu’r prosiect, a oedd yn cynnwys comisiynu cerddorion a llenorion i lunio cerdd neu gân sy’n cyflwyno rhywbeth am eu bro.
Mae’r cais yn cynnwys chwe ardal, ac mae un darn o waith yn cyd-fynd â phob ardal – gydag Arwel Jones Hogia’r Wyddfa a Dyl Mei yn Llanberis, Lisa Jên ym Methesda, Karen Owen ac Edwin Humphreys yn Nyffryn Nantlle, Gai Toms ym Mlaenau Ffestiniog, Llio Maddocks a Dyl Mei ym Mhorthmadog, a Manon Steffan Ros ym Mryneglwys, sef Abergynolwyn a Thywyn.
“Llwyfan i waith newydd”
“Y syniad gwreiddiol oedd gwneud taith o gwmpas ardaloedd y chwareli, gyda minnau’n cerdded o le i le yna’n cynnal cyfres o nosweithiau gan wâdd artist o’r ardal chwarelyddol yna i ymuno efo mi am y noson, wedyn bore wedyn fyswn i’n gwneud gweithdy mewn ysgol, ac ymlaen â fi ar fy nhaith,” meddai Ifor ap Glyn wrth golwg360.
“Fyswn i wedi rhannu llwyfan efo Karen Owen yn Nantlle, Lisa Jên ym Methesda, ac yn y blaen.”
Yn sgil Covid, daeth y penderfyniad i beidio â dilyn trywydd yr ysgolion, ond roedd gwneud y daith gerdded yn dal yn bosib, meddai.
“Felly roedd gennym ni’r cwestiwn, sut oeddem ni am gynnwys yr artistiaid, a finnau’n methu cynnal y nosweithiau agored fel ro’n i wedi bwriadu ei wneud?
“Ym mis Mai eleni wedyn, daron ni ar y syniad o gynnal nosweithiau Zoomunedol, nid cymunedol. Be oedd y rheiny oedd sgyrsiau… ar ôl i mi gerdded o Felinheli i Lanberis er enghraifft, wedyn ro’n i’n sgwrsio dros Zoom yn gyhoeddus efo Arwel Jones Hogia’r Wyddfa.
“Ymhob un o’r cyflwyniadau yma, roedden ni’n cael crynodeb o hanes chwarelyddol yr ardal gan yr hanesydd Dr David Gwyn, ac fel uchafbwynt i’r noson ar ôl sgwrsio am hyn a llall ac arall, am eu cefndir, am ddylanwadau’r chwarel, diwylliant neu fywyd y chwarel arnyn nhw fel artistiaid… uchafbwynt y noson oedd premier o’r gwaith roedden nhw wedi’i greu yn ymateb i’w treftadaeth.”
Cafodd taith Lle-CHI ei chynnal y mis Mai eleni, o ganlyniad i bartneriaeth rhwng Llenyddiaeth Cymru, Amgueddfa Lechi Cymru a Chyngor Gwynedd.
“Tua diwedd y cyfnod cynllunio, gaethom ni’r cyfle i wneud rhaglen deledu’n crynhoi’r hanes, meddai Ifor ap Glyn, sydd wedi cynhyrchu’r rhaglen hefyd.
“Mae’r rhaglen yn syml yn rhoi llwyfan i’r gwaith newydd yma, a pheth o’i gefndir, gyda rhywfaint o hanes gen innau wrth grwydro o le i le.”
Dathlu “sawl gwedd ar yr hanes”
Mae yna nifer o themâu yn gysylltiedig â’r cais, ac mae’r darnau’n ymateb i rai o themâu hynny, ac yn tynnu ar brofiad personol yr artist o’u cymuned chwarelyddol
“Pethau fel yr archeoleg sy’n gysylltiedig yn uniongyrchol â phrosesau chwarelyddol, ond hefyd yr archeoleg ehangach sef y systemau cludiant, y tramffyrdd a’r rheilffyrdd, neu eu holion nhw, oedd yn mynd â’r llechi i’r harbwr ac ati,” meddai Ifor ap Glyn, gan ychwanegu bod ei hen daid yn byw mewn barics yn Rhosydd, Blaenau Ffestiniog.
“Yr archeoleg ehangach sef patrymau anheddiad, a’r anheddiad ddaeth yn sgil [y diwydiant], roedd y chwarelwyr yn gorfod byw yn rhywle – o’r barics i’r dynion oedd yn byw rhy bell i ffwrdd i fedru teithio’n ddyddiol.
“Themâu fel undebaeth, ymateb i iechyd, ysbytai chwarelyddol, y clybiau oedd yn ffurfio… mae’r holl beth yn cwmpasu nid yn unig archeoleg ac olion fedra pobol fynd yna a rhoi eu llaw arnyn nhw a sbïo arnyn nhw, ond hefyd y diwylliant ehangach a’r hanes ehangach.
“A sawl gwedd ar yr hanes, nid jyst yr economi a faint o dunelli roedden nhw’n ei gynhyrchu mewn blwyddyn.
“Ond be’ oedd ymateb yr unigolion a’r cymdeithasau i’r cymunedau oedden nhw’n byw ynddyn nhw, neu’r amgylchiadau roedden nhw’n byw danyn nhw.
“A’r ymateb o ran yr iaith… dyna un o’r pethau hynod am y chwareli. Dyma, mae’n debyg, yr unig ddiwydiant trwm yn ein hanes ni, dw i’n gwybod bydd rhai yn cyfri gwehyddu neu amaethyddiaeth yn ddiwydiant ond dydyn nhw ddim yn ddiwydiannau trwm, oedd fwy na heb yn gyfan gwbl Gymraeg ei iaith.
“Roedd yna ardaloedd yn y maes glo oedd yn Gymraeg eu hiaith, ond ddim i’r graddau roedd y diwydiant llechi drwyddi draw.
“Dathlu’r holl bethau yma ydi bwriad y cais, ac wedyn dyma ofyn i’r artistiaid fod yn ymwybodol o’r wahanol bethau.
“Ro’n i wedi cyfeirio bob un i ryw wedd ar y dreftadaeth yn ei holl gyfoeth.
“Fe wnaethon nhw ddilyn trywydd eu hunain, ond dw i’n falch eu bod nhw wedi llwyddo, yn ddiarwybod, i fynd i wahanol gyfeiriadau.”
‘Cofio’r cyfan’
Yn ôl Ifor ap Glyn, mae’n “bwysig ein bod ni ddim yn gwyngalchu” hanes y diwydiant chwarelyddol na’i ardaloedd.
“Dw i’n falch o ddweud fod rhai o’r gweithiau yn y prosiect yn ymateb i’r sialens honno,” meddai.
“Yr enghraifft fwyaf amlwg ydi cerdd hynod bwerus gan Karen Owen, neu ei chywaith hi gydag Edwin Humphreys. Ei man cychwyn hi oedd ei bod hi wedi magu a byw rhan fwyaf o’i hoes yn Nyffryn Nantlle ynghanol tomenni llechi ond erioed wedi gweld chwarel ar waith.
“Roedden nhw i gyd wedi darfod cyn ei geni hi. Ond un gwaddol o’r diwydiant mae yn ei chofio oedd fel y byddai perthnasau iddi, a thadau a theidiau ei ffrindiau hi, yn ddibynnol ar botel ocsigen ddyddiol gan y fferyllydd oherwydd eu bod nhw’n dioddef gyda’r llwch.
“Dydi’r enwebiad ddim yn ceisio osgoi hynny chwaith, mae edrych ar iechyd yr ardaloedd chwarelyddol yn rhan o’r peth i hybu ymwybyddiaeth ynglŷn â hynny.
“[Rydyn ni’n] dathlu cymdeithas y Caban a chyfoeth diwylliannol oedd yn cael ei sbarduno gan rywun oedd yn chwilio am rywbeth i’w wneud ar ôl diwrnod caled yn y chwarel, rydyn ni’n synnu bod ganddyn nhw egni i ffurfio’u corau a’u bandiau pres ar ôl be oedd yn ddiwrnod corfforol a pheryglus.
“Ond yn ogystal â’r pethau hynny, mae realiti’r ffaith ei fod o’n waith peryg, roedd yna ddamweiniau a pheryg tymor hir, efallai’n fwy yn y cyfnod diweddar pan aethon nhw o weithiau mewn waliau agored i weithio mewn melinau a siediau lle’r oedd llwch yn crynhoi mwy, er efallai yn y waliau roedden nhw’n fwy tebygol o gael niwmonia… roedden nhw’n ennill mewn un cyfeiriad ond yn ennill mewn cyfeiriad arall.
“Yn sicr mae isio dathlu’r dreftadaeth, ac mae isio cofio, ond mae isio cofio’r cyfan nid just cofio’n ddethol.”
“Ailgysylltu pobol efo’u treftadaeth”
“Dydyn ni dal ddim yn gwybod beth fydd eu dyfarniad nhw, ond dw i’n meddwl ein bod ni’n lled obeithiol yn sicr. Yn sicr, mae o’n brosiect haeddiannol does yna ddim dwywaith am hynny,” meddai Ifor ap Glyn am y cais.
“Rôl y prosiect yw codi ymwybyddiaeth, yn bersonol dw i’n gobeithio y bydd hi’n sbardun i roi hwb i ailgysylltu pobol efo’u treftadaeth.
“Fel roedd y stori gyda Karen Owen yn ei ddangos, mae’r to iau, a phob to iau fydd yn codi yn yr ardaloedd hyn, mae’r hanes yma’n mynd i fod yn gynyddol ddiarth iddyn nhw.
“Mae yna waith i ailgysylltu pobol efo’i hanes, dw i’n meddwl fod hynny’n ofnadwy o bwysig.
“Fedra ni ddim dallt yn iawn lle rydyn ni’n mynd os dydyn ni ddim yn gwybod o le rydyn ni wedi dod.
“Mae’n bwysig hefyd, wrth i bobol ymweld â’n gwlad ni, mai ni sy’n rheoli’r naratif.
“Os ydi hyn yn bwysig i ni, a fyswn i’n dweud ei fod o, wedyn ddylai hynny fod yn rhan ganolog o’r stori, yn hytrach na bod rhywun yn dweud ‘sun, sea, and sand’ neu beth bynnag mae rhywun yn tybio sy’n mynd i apelio… gadewch i ni fod yn gadarn ynglŷn â be sy’n bwysig am ein gwlad ni er mwyn gosod y fframwaith fel bod pobol yn gwybod lle maen nhw’n mynd.
“Fel eu bod nhw’n gweld nad rhywbeth ymylol ydi’r diwylliant, ond rhywbeth canolog, ‘Dyma ein diwylliant ni, dydyn ni ddim yn ymddiheuro amdano fo, dyma pwy ydyn ni’.”
- Taith Lle-CHI ar S4C nos Fercher, 28 Gorffennaf, 9yh.