Mae cerddor preswyl mewn cartref gofal wedi cael ei galw’n “arwres Covid” am gadw’r preswylwyr yn canu trwy gydol y pandemig.
Mae Nia Davies Williams wedi bod yn cynnal sesiynau canu dyddiol i godi’r ysbryd ym Mryn Seiont Newydd, sef cartref gofal Parc Pendine yng Nghaernarfon.
Dim ond oherwydd ei bod hi’n weithiwr parhaol yno y llwyddodd hi i barhau â’r sesiynau cerdd sy’n boblogaidd gan breswylwyr sy’n byw gyda dementia, meddai Nia Davies Williams.
Cafodd ei recriwtio gan berchnogion Parc Pendine, Mario a Gill Kreft, fel cerddor preswyl pan agorodd y cartref yn 2015.
Roedd yn “gam anarferol i’w gymryd”, meddai Nia Davies Williams, sy’n byw yng Nghaernarfon gyda’i gŵr a’i phlant, gan ychwanegu bod Mario a Gill yn deall pwysigrwydd cerddoriaeth i bobol â dementia.
Bu’r sesiynau yn achubiaeth i breswylwyr oedrannus wrth iddyn nhw ymdopi â’r her o beidio gallu cyfarfod eu teuluoedd â’u hanwyliaid yn ystod y cyfnod clo.
“Mae sgwrs un i un a rhyngweithio cariadus efo ffrindiau a theulu yn bwysig iawn i unrhyw un sy’n byw gyda dementia ac i’w teuluoedd hefyd,” meddai Nia Davies Williams.
“Roeddem yn gallu hwyluso gweithgareddau ar y sgrin a thrwy ffrydio ar-lein ond nid yw hynny’n gweithio cystal â phobl sydd â gwahanol fathau o ddementia.
“Ond mae cerddoriaeth yn llifo. Roedd yn ffordd o gynnwys teuluoedd hefyd. Efallai na fydden nhw wedi cael sgwrs ystyrlon ar y ffôn neu drwy Facetime ond gallen nhw weld eu hanwyliaid yn canu a gweld eu bod yn mwynhau hynny ac fe agorodd lwybr cyfathrebu pwysig.”
Therapi cerddoriaeth
Astudiodd Nia Davies Williams y berthynas rhwng cerddoriaeth a dementia fel rhan o’i gradd meistr, ac mae hi bellach yn arbenigwr cydnabyddedig yn y maes.
Eglurodd fod ymchwil wedi dangos sut y mae cerddoriaeth yn ysgogi dwy ochr yr ymennydd.
“Oherwydd hyn am ryw reswm mae’n ymddangos nad yw atgofion cerddorol yn cael eu dileu hyd yn oed ymhlith y rhai y mae sgwrs syml yn ymddangos yn amhosibl iddyn nhw,” meddai.
“Roedd y budd i’r preswylwyr o barhau â’u therapi cerddoriaeth yn enfawr.
“Mae gan y cartref ystafell gerdd eang, ac rydyn ni wedi arfer croesawu corau lleol nes bod yr ystafell gerddoriaeth yn fôr o gerddoriaeth.
“Roedd yn rhaid i mi dynnu’r plwg ar yr ymweliadau hynny yn syth, ac ar ben hynny hefyd nid oeddem y gallu dod â’r preswylwyr at ei gilydd yn yr ystafell gerdd fel un criw mawr.
“Mae gan y cartref gofal 12 lolfa gyda thua naw o breswylwyr ym mhob lolfa. Roedd yn rhaid cyfyngu ar symud rhwng lolfeydd rhag ofn y byddai haint Covid-19 yn ymledu.
“Roedd yn rhaid i mi feddwl am syniad o sut i gyflwyno cerddoriaeth fyw yn ddiogel i breswylwyr. Trwy gysylltu ag ychydig o ysgolion lleol, llwyddais i gael gafael ar bedwar piano ysgol oedd ddim yn cael eu defnyddio ar y pryd a’u gosod mewn lleoliadau strategol yn y cartref.
“Fe wnes i hefyd ddefnyddio fy nhelyn Geltaidd yn ystod y sesiynau cerddoriaeth bach. Roedd yn rhaid cadw’n gaeth at y rheolau, felly daeth mwgwd, fisor, a bwced o hancesi gwrth-bacteriol yn offer dyddiol i mi yn ogystal â newid fy nillad wrth gyrraedd a gadael fy nghartref fy hun.
“Mae’r gallu i ganu yn aros gyda’r mwyafrif o bobl â dementia. Pleser pur oedd clywed dagrau o lawenydd gan un ferch wrth i’w thad ganu’r emyn Cymraeg poblogaidd ‘Calon Lân’ i lawr y ffôn wrth i mi gyfeilio iddo ar y piano.
“Canodd dyn arall ‘Bugeilio’r Gwenith Wen’ i gyfeiliant y delyn tra roedd ei fab yn gwylio ac yn gwrando trwy Facetime. Roedd hon yn ffordd arbennig o gysylltu – yr unig ffordd yn aml – ac roedd yn amhrisiadwy i deuluoedd.”
“Os ydw i’n gallu canu rwy’n hapus”
Roedd David Edwards, un o breswylwyr Bryn Seiont Newydd, wrth ei fodd bod y gerddoriaeth yn parhau a chanmolodd sgiliau arwain “rhagorol” Nia.
Dywed David fod y sesiynau wedi lleddfu’n fawr unrhyw deimladau o bryder oedd ganddo ynglŷn â newyddion pryderus y pandemig.
“Rhaid i chi fynd yn bell i guro ein côr ni yma. Canu Cymraeg, fedrwch chi ddim ei guro. Mae’n gwneud i mi deimlo’n wych. Fe ddaeth â hapusrwydd i mi. Does dim ots beth sy’n digwydd yn y byd, os ydw i’n gallu canu rwy’n hapus,” meddai.
“Fedrech chi ddim cael gwell arweinydd. Mae Nia yn rhagorol ac ar ben hynny mae hi’n berson hyfryd iawn. Mae hi’n ddymunol ac yn garedig iawn. Allwch chi ddim gofyn am fwy.”
“Arwres gerddorol”
“Does dim amheuaeth” fod Nia yn “arwres gerddorol anhygoel” meddai Sandra Evans, rheolwr Bryn Seiont Newydd.
“Mae wedi bod yn her enfawr i bawb ohonom. Mae pob aelod o staff wedi rhoi 100 y cant ac ni fyddwn byth yn anghofio pa mor anhunanol y maen nhw wedi bod wrth gamu i’r adwy o dan yr amgylchiadau anodd.
“I Nia, mae wedi bod yn ddi-baid, gan gyflwyno’r rhaglen gerddoriaeth gyfan ei hun heb allu galw ar gefnogaeth corau neu gyd-gerddorion yn ymweld â’r cartref. A does dim amheuaeth ei bod hi wedi bod yn arwres gerddorol anhygoel.
“Mae hi wedi bod yn allweddol wrth godi ysbryd cymaint o breswylwyr a’u teuluoedd. Rydym yn hynod falch o’i chael hi efo ni fel ein cerddor preswyl.
“Mae’r celfyddydau bob amser wedi bod yn rhan annatod o fywyd bob dydd yma ac yn sicr mi wnaeth y gerddoriaeth barhau yn Bryn Seiont Newydd.”