Mae adroddiad newydd yn awgrymu mai cynnydd mewn diweithdra yn sgil Covid-19 a busnesau’n cael eu heffeithio gan Brexit yw’r materion sy’n cael eu gweld fel y risgiau mwyaf sy’n wynebu Gwynedd ar y funud.

Mewn cyfarfod heddiw (15 Gorffennaf), clywodd Pwyllgor Ymchwil Cyngor Gwynedd fod pryderon ynghylch prinder gwelyau nyrsio wedi i gartref Pwyleg Penrhos gau llynedd.

Ond wrth ymateb i ganfyddiadau’r adroddiad, fe wnaeth un cynghorydd awgrymu fod yna nifer o swyddi gwag yn y sector lletygarwch mewn ardaloedd fel Pen Llŷn, wrth i nifer o fusnesau gael trafferthion parhaus yn ceisio denu digon staff.

Mae Cofrestr Risgiau Corfforaethol yr awdurdod yn ystyried y pethau sy’n debygol o greu heriau i’r cyngor a phobol Gwynedd, yn seiliedig ar eu matrics.

Daeth yr adroddiad i’r canfyddiad mai’r risg o ddiweithdra’n cynyddu’n sydyn yn sgil effeithiau parhaus Covid-19 yw un o’r peryglon pennaf.

Yn ôl yr adroddiad, mae’r mesurau lliniaru sydd ar gael i’r awdurdod yn cynnwys gweithio gyda Grŵp Llandrillo Menai a’r trydydd sector er mwyn cynnig cefnogaeth i fusnesau lleol, a chynnig cefnogaeth i gyflogwyr gyflogi pobol ifanc am gyfnod o hyd at chwe mis gan ddatblygu eu sgiliau gwaith.

Bydd tasglu’n ystyried a oes camau pellach all Cyngor Gwynedd a’i phartneriaid eu cymryd er mwyn cefnogi busnesau a chyflogwyr i gynnig gwaith a phrofiadau gwaith.

“Angen gweithwyr”

Yn sgil y trafferthion parhaus ac amlwg mae rhai busnesau lletygarwch yn eu cael i gadw a denu staff er mwyn ateb y galw dros yr haf, awgrymodd un perchennog tafarn fod swyddi ar gael mewn ardaloedd sy’n boblogaidd gyda thwristiaid.

“Mae yna waith yma ym Mhen Llŷn ond dydi pobol ddim eisiau gwneud y gwaith, lletygarwch yw un o’r cyflogwyr mwyaf yn lleol ac maen nhw wirioneddol angen gweithwyr,” meddai Cynghorydd Llanengan, John Brynmor Hughes.

“Dw i’n meddwl fod pobol wedi dod i arfer â pheidio gweithio a chael lot o amser adre ac wedi mwynhau eu hunain, gan arwain at broblem yn y sector lletygarwch, yn enwedig yma, ond ymhellach i ffwrdd hefyd fel yn Aberystwyth a Chei Newydd, maen nhw i gyd yn chwilio am staff.

“Dydi’r gwaith ddim yn broblem cyn belled â bod pobol yn barod i wneud y gwaith.”

Mae ystadegau’n awgrymu fod mwy nag un ymhob deg gweithiwr yn y sector lletygarwch yn y Deyrnas Unedig wedi gadael y diwydiant yn y flwyddyn ddiwethaf, gyda’r rhesymau tu ôl i hynny’n cynnwys Brexit, yn ogystal â Covid.

Swyddi sy’n talu’n well

Roedd y risgiau mawr eraill a gafodd eu cofnodi yn yr adroddiad yn cynnwys yr angen i roi sylw penodol i’r sector amaethyddiaeth, lle mae angen cefnogaeth bellach er mwyn helpu busnesau gwledig i addasu, meddai’r adroddiad.

Fe wnaeth y Cynghorydd Angela Russell bwysleisio’r angen am fwy o welyau nyrsio, yn enwedig ym Mhen Llŷn yn dilyn cau cartref Pwyleg Penrhos, ac mae’r adroddiad yn cydnabod yr angen i sefydlu Cynllun Recriwtio a Datblygu’r Gweithlu er mwyn mynd i’r afael ag anghenion yr awdurdod yn sgil prinder gweithwyr cymdeithasol.

Ar ôl nodi nad yw pobol Gwynedd yn elwa i’r graddau y dylen nhw gan dwristiaeth, dywedodd yr adroddiad fod angen sicrhau cyfleoedd cyflogaeth sy’n talu’n well yng Ngwynedd.

“Mae cyflogau isel yn parhau i fod yn broblem yng Ngwynedd, yn enwedig yn ardal Meirionnydd. [Mae] cyfle i ymateb drwy barhau i weithio gyda’n gilydd i greu’r amodau iawn er mwyn datblygu swyddi â gwerth uwch yng Ngwynedd.

“Byddwn ni wedi cytuno ar raglen i greu mwy o swyddi â gwerth uwch yng Ngwynedd gan ystyried effaith COVID a Brexit ar gyflogwyr.

“Bydd y rhaglen yn canolbwyntio ar hyrwyddo sgiliau a gyrfaoedd ym meysydd Gwyddoniaeth, Technoleg, Electroneg, a Mathemateg, ac ar warchod a chreu swyddi newydd ar gyfer y dyfodol ar safle Trawsfynydd, safle maes awyr Llanbedr, ac o fewn y sectorau meddygol, peirianneg, digidol a chreadigol.”