Mae gwylanod wedi bod yn achosi cryn drafferth i drigolion Caernarfon dros yr wythnosau diwethaf.

Ar sawl stryd, yn cynnwys Strydoedd y Faenol a Dinorwig, mae’r adar wedi ymosod ar bobol, gan ei gwneud hi’n anodd cerdded yn yr ardal honno.

Mae Ellen Roberts, sy’n byw ar stryd sy’n cael ei heffeithio, wedi disgrifio’r sefyllfa fel un “beryg”.

“Maen nhw o flaen ein drws ffrynt ni, ac mae o’n beryg,” meddai.

“Mi oedd yna seagull chick yn styc ar ein stryd ni yn dysgu sut i hedfan, a tra oedd o’n dysgu, mi oedd pwy bynnag oedd ar y stryd yn gorfod rhedeg achos bod rhieni’r gwylannod yn bomio amdanyn nhw.

“Weithiau, maen nhw yn y cefn a fedri di ddim eistedd yna, a hefyd ti’n gorfod cael ymbarél i gael at dy gar.

“Mae o’n ridiculous.”

Stryd y Faenol, un o’r strydoedd sy’n cael ei heffeithio, ar googlestreetview

‘Codi pryderon’

Yn ôl Jason Wayne Parry, y cynghorydd lleol dros ward Peblig sydd wedi bod yn siarad â golwg360, mae’r gwylanod yn “codi pryderon” i bobol sy’n byw yno.

“Mae’n amlwg bod yna glwstwr o wylanod yn casglu yn yr ardal yna,” meddai.

“Mae yna broblem gwylanod ar hyd y dre’ i gyd i fod yn hollol onest, ond am ryw reswm, ar hyn o bryd ar y strydoedd yma, mae’r gwylanod wedi bod yn nythu.

“Mae’r gwylanod wedyn yn ymosod ar bobol sy’n mynd heibio yn meddwl eu bod nhw’n trio mynd ar ôl y cywion.

“Mae yna un hen ddynes wedi mynd â’i bin allan, ac mae dau o wylanod wedi ymosod arni, ac wedi ei chynhyrfu hi’n lân.

“Plentyn oedd un arall, oedd yn eistedd mewn pram, ac mae’r gwylanod wedi dod lawr ac wedi ymosod.

“Mae o wedi codi pryderon i dipyn o drigolion y strydoedd.”

Dan warchodaeth

Mae gwylanod yn adar sy’n cael eu gwarchod gan y gyfraith ac, ar hyn o bryd, caiff swyddogion penodol ond eu difa os nad oes opsiwn arall.

Rhaid i awdurdodau lleol benderfynu ar ffyrdd amgen o’u symud, felly.

“Yn cychwyn y tymor, tua mis Mawrth, wnes i godi hyn efo’r Cyngor Tref [Caernarfon], a dweud ein bod ni angen delio efo fo,” meddai Ellen Roberts wedyn.

“Yr ateb ges i’n ôl oedd bod y pwyllgor gwaith wedi gofyn am syniadau.

“Un o’r pethau oedden ni am ei drio gyntaf ydi cael Gwalch Harris (Harris’s Hawk) yno er mwyn cadw gwylannod o ‘na.”

Mae Gweilch Harris, a hefyd tylluanod, yn achosi i’r gwylannod ddychryn, ac unwaith mae’r gweilch yn diflannu, mae’r gwylanod yn bachu ar y cyfle i ffoi.

Problem hynny oedd bod y gwylanod yn symud i ardaloedd eraill o’r dref ac yn achosi helynt, felly mae opsiynau cynghorwyr yn brin.

“Pan mae’r dylluan yn dod i ganol dre’, yr unig beth sy’n digwydd ydi bod gwylanod yn dod allan o’r dre’ o gwmpas lle ni wedyn,” ychwanegodd Ellen.

“Dydy o ddim yn rhywbeth sy’n newydd – mae o wedi bod yn mynd ymlaen ers blynyddoedd.

“Ond mae o wedi mynd yn waeth rŵan, a dw i’n teimlo bod yna ddim byd yn cael ei wneud amdanyn nhw.”

‘Rhaid cael rhyw falans’

“Mae’n rhaid cael rhyw falans, achos mae’n anodd iawn pan mae plant yn cael eu hymosod arnyn nhw,” meddai’r cynghorydd Jason Wayne Parry wedyn.

“Yn fy marn i, mae rhaid i’r plant ddod yn gyntaf.

“Ond yn amlwg, trio’u gwarchod nhw [y gwylanod] maen nhw.”

Yn y cyfamser, yr unig opsiwn sydd gan y cyngor yw cyflogi Islwyn, a’i walch, neu godi sbigynnau ar draws y dref.

Bydd y cynghorwyr yn penderfynu ar hynny maes o law.