Mae disgwyl i’r llofrudd plant Colin Pitchfork gael gadael y carchar ar ôl i’r Bwrdd Parôl wrthod cais gan Lywodraeth Prydain i herio’r dyfarniad.

Mae’r dyn yn ei 60au wedi’i garcharu am dreisio a thagu dwy ferch 15 oed, Lynda Mann a Dawn Ashworth, yn Swydd Gaerlŷr yn 1983 a 1986.

Fe oedd y dyn cyntaf i’w gael yn euog o lofruddio ar sail tystiolaeth DNA yn 1988, ar ôl iddo gyfaddef ei fod e wedi llofruddio’r ddwy, eu treisio, ymosod arnyn nhw’n rhywiol a chynllwynio i wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Cafodd ei ddedfrydu i o leiaf 30 o flynyddoedd dan glo, ond cafodd y ddedfryd ei lleihau wedyn i 28 mlynedd, ac fe gafodd ei symud i garchar agored dair blynedd yn ôl.

Yn dilyn gwrandawiad ym mis Mawrth, penderfynodd y Bwrdd Parôl y gallai adael y carchar, er iddyn nhw wrthod dau gais blaenorol yn 2016 a 2018.

Gwrthod cais

Fis diwethaf, fe wnaeth Robert Buckland, Ysgrifennydd Cyfiawnder San Steffan, ofyn i’r bwrdd annibynnol ailedrych ar y penderfyniad, ond cafodd y cais ei wrthod.

Roedd e’n dadlau bod y penderfyniad yn un “heb resymeg” gan fod “rhesymau annigonol” wedi’u rhoi i gyfiawnhau’r penderfyniad.

Ond cafodd hynny ei wrthod gan farnwr.

Bydd Colin Pitchfork yn gorfod dilyn rheolau llym iawn wrth adael y carchar.

Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn dweud eu bod nhw’n “siomedig” ond yn parchu’r penderfyniad.

Mae Llywodraeth Prydain yn awyddus i ddiwygio’r system barôl, ac mae disgwyl i ganlyniadau arolwg gael eu cyhoeddi’n ddiweddarach eleni, ac maen nhw hefyd am newid y gyfraith fel nad yw’r rhai sy’n llofruddio plant yn cael gwneud cais am barôl.