Mae dyddiad wedi cael ei bennu ar gyfer cwest i farwolaeth dyn fu farw ar ôl cael ei atal gan yr heddlu yng Nghasnewydd.
Bu farw Mouayed Bashir, 29, yn yr ysbyty ar ôl i’r gwasanaethau brys gael eu galw i’w gartref yng Nghasnewydd ar 17 Chwefror.
Clywodd Llys y Crwner yng Nghasnewydd bod yr heddlu wedi atal Mouayed Bashir cyn iddo farw.
Dywedodd uwch grwner Gwent, Caroline Saunders, y byddai cwest gyda rheithgor yn cael ei gynnal ar 11 Gorffennaf y flwyddyn nesaf.
Clywodd gwrandawiad byr bod yr heddlu a pharafeddygon wedi’u galw i gartref Mouayed Bashir, a gafodd ei eni ym Mhacistan.
Dywedodd swyddog y crwner, Paul Richardson, bod yr heddlu wedi atal Mouayed Bashir a’i gludo i’r ysbyty mewn ambiwlans. Cafodd ei farwolaeth ei gofnodi am 11.41yb yr un diwrnod yn Ysbyty’r Faenor yng Nghwmbrân.
Cafodd archwiliad post mortem ei gynnal ar 18 Chwefror ond nid yw “union achos ei farwolaeth” wedi cael ei roi hyd yn hyn, meddai Paul Richardson.
Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu yn cynnal ymchwiliad i amgylchiadau’r digwyddiad.