Mae’r cais i sicrhau statws Treftadaeth y Byd ar gyfer ardaloedd llechi Gwynedd wedi cyrraedd y cam olaf cyn y bydd UNESCO yn dod i benderfyniad.

Ar ôl ystyriaeth gan y Cyngor Rhyngwladol ar Henebion a Safleoedd, bydd Pwyllgor Treftadaeth y Byd UNESCO yn gwneud penderfyniad terfynol ar y cais ym mis Gorffennaf.

Mae’r cais yn cynnwys cymunedau Dyffryn Ogwen, Dyffryn Nantlle, Dinorwig, Cwmystradllyn a Chwm Pennant, Ffestiniog a Phorthmadog, ac Abergynolwyn a Thywyn.

Pe bai’r cais, sy’n cael ei arwain gan Gyngor Gwynedd, yn cael ei dderbyn, bydd y dirwedd yn ennill ei le fel y pedwerydd Safle Treftadaeth y Byd yng Nghymru.

“Haeddu cydnabyddiaeth”

“Mae enwebiad Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd-orllewin Cymru yn ymwneud â dathlu a rhannu’r gorau o’r hyn sydd gan ein hardaloedd llechi i’w gynnig i’r byd, yn hanesyddol a hyd heddiw,” meddai’r Cynghorydd Gareth Thomas, Aelod Cabinet dros Economi a Chymuned Cyngor Gwynedd.

“Rydym yn hynod o falch fod yr holl waith caled sydd wedi bod ynghlwm â’r cais wedi cyrraedd y cam cyffrous yma yn y broses ac yn edrych ymlaen yn fawr at y penderfyniad terfynol yn fuan.

“Fel rhan o’r cais, ein bwriad ydi helpu i gynnig gwell dealltwriaeth o arwyddocâd diwydiant llechi Cymru a’i rôl nid yn unig wrth lunio ein cymunedau, ein hiaith a’n diwylliant ond hefyd wrth roi to ar y byd ac allforio technolegau a phobl yn fyd-eang.

“Mae’n rhan annatod o’n hanes a’n treftadaeth ni sy’n haeddu cydnabyddiaeth ar lefel rhyngwladol.

“Mae’r cais yn gyfle pwysig iawn i ni ddathlu a chydnabod diwylliant, treftadaeth ac iaith unigryw ardaloedd y chwareli ac i ennyn balchder yng nghyfraniad yr ardal hon i ddynoliaeth a’r byd.”

“Dwysáu effeithiau niweidiol twristiaeth”

Fodd bynnag, mae ymgyrchwyr iaith Cylch yr Iaith yn gwrthwynebu’r cais, oni bai fod amodau llym mewn lle i warchod y Gymraeg.

Maen nhw o’r farn fod cymunedau’r Gogledd-orllewin eisoes yn dioddef effeithiau niweidiol twristiaeth, ac y byddai hynny’n cael ei ddwysáu o gymeradwyo’r cais.

Yn ôl Cylch yr Iaith, “siarad gwag” yw’r ymgais i gysylltu’r cais â “dathlu cymunedau, iaith a diwylliant” a “chreu balchder yn yr iaith Gymraeg”.

“Ni ellir ’dathlu’ pethau a’u tanseilio’r un pryd,” meddai Howard Huws, Cydlynydd Ymgyrch Dwristiaeth Cylch yr Iaith

“Cyfwerth â’r Taj Mahal”

Ond yn ôl Dafydd Roberts, cyn-Geidwad yr Amgueddfa Lechi yn Llanberis, byddai rhoi’r statws i’r ardaloedd chwarelyddol yn rhoi i’r byd “ddirnadaeth o Gymru fel y genedl ddiwydiannol gyntaf”.

Mae’r Amgueddfa Lechi’n un o bartneriaid y cais, ac yn ôl Dafydd Roberts gallai’r cais arwain at gyfleoedd i bobol ifanc yr ardal aros yn lleol gyda “swyddi da”, a byddai’n helpu pobol i “ddeall bod yr hyn sydd yma sy’n weddill yn gyfwerth â’r Taj Mahal”.

Llechi Cymru – “cyfwerth â’r Taj Mahal”

Non Tudur

Byddai rhoi statws Safle Treftadaeth y Byd i ardaloedd llechi yn rhoi i’r byd “ddirnadaeth o Gymru fel y genedl ddiwydiannol gyntaf”

Cylch yr Iaith: Ni ddylid cymeradwyo cais Safle Treftadaeth y Byd i Dirwedd y Llechi heb amodau i warchod y Gymraeg

“Ni ellir ’dathlu’ pethau a’u tanseilio yr un pryd,” meddai Howard Huws ar ran Cylch yr Iaith