Mae pryderon fod ardaloedd gwledig yng Ngwynedd dan anfantais wedi i’r galw cynyddol am brofion gyrru atal gyrwyr newydd rhag sefyll eu prawf.

Mae Hywel Williams, Aelod Seneddol Arfon, a Liz Saville Roberts, Aelod Seneddol Dwyfor Meirionydd, wedi ysgrifennu at yr Adran Drafnidiaeth ac Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (DVSA) yn galw am eglurder am brofion gyrru.

Daw hyn wrth i’r gwasanaeth geisio dygymod ag oedi sylweddol mewn profion gyrru yn sgil y coronafeirws.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y gallai gwersi gyrru ailddechrau ar Orffennaf 27.

Ar ôl cael eu gohirio fis Mawrth i atal lledaeniad y coronaferiws ail ddechreuodd profion gyrru yng Nghymru ar Awst 17.

Ond gan fod y galw am brofion wedi bod yn “eithriadol o uchel” mae’r gwasanaeth archebu ar-lein bellach ar gau a does dim modd archebu prawf gyrru.

Hywel Williams, Aelod Seneddol Arfon, a Liz Saville Roberts
Liz Saville Roberts ac Hywel Williams

“Adolygiad brys’

“Byddwn yn annog y DVSA a’r Adran Drafnidiaeth i adolygu ar frys yw adnoddau cyfredol yn cwrdd â gofynion cynyddol yn ddigonol, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig ac a oes cefnogaeth ychwanegol ar gael i helpu i ddelio â’r oedi sy’n atal gyrwyr newydd rhag sefyll eu prawf”,  meddai Hywel Williams.

Ychwanegodd nad oedd am weld pobol sydd wedi gwneud talu am brawf gyrru cyn y cyfnod clo yn gorfod gwneud cais arall am brawf gyrru.

‘Teithio oriau i’r ganolfan agosaf’

Eglurodd Liz Saville Roberts fod sawl etholwr wedi cysylltu â hi dros y dyddiau diwethaf yn pryderu am y sefyllfa.

“Mae Dwyfor Meirionnydd yn etholaeth fawr, wledig”, meddai.

“Os nad oes darpariaeth yn yr un o’r canolfannau lleol hyn nac yn wir Bangor, byddai disgwyl i’r rheiny sy’n dymuno sefyll eu prawf deithio oriau i’r ganolfan amgen agosaf, gan gymryd bod honno ar gael”.

“Er fy mod yn deall yr anawsterau a achosir gan gyfyngiadau Covid-19, a’r cynnydd sylweddol mewn ceisiadau oherwydd nad oedd pobl yn gallu archebu a sefyll eu profion gyrru dros gyfnod estynedig, mae’n syndod nad oedd y DVSA yn barod am hyn.”

375,000 o lefydd newydd

Fe wnaeth bron i 7 miliwn o bobol wneud cais am brawf ar ôl i’r system fynd ar-lein eto fis diwethaf, ond doedd y wefan ddim wedi gallu ymdopi â’r galw.

Mae’r Adran Drafnidiaeth ac Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau wedi ymddiheuro am y sefyllfa ac wedi dweud bydd 375,000 o lefydd newydd ar gael i’w archebu ar ddydd Llun Medi 14 – bydd y llefydd yma ar gael i’w archebu hyd at hyd at Ionawr 21, 2021.