Mae Ysgrifennydd Diwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol Cymru wedi cael sicrwydd gan Brif Weithredwr Amgueddfa Genedlaethol Cymru nad oes unrhyw gynlluniau i gau Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Wrth ymateb i gwestiwn gan Heledd Fychan, yr Aelod o’r Senedd Plaid Cymru, am yr amgueddfa dywedodd Lesley Griffiths yn y Senedd ei bod hi wedi cyfarfod â’r prif weithredwr ddoe.

Daeth i’r amlwg dros y penwythnos bod 90 o swyddi mewn perygl gyda’r amgueddfa genedlaethol, ac y gallai’r brif amgueddfa yng Nghaerdydd gau yn sgil cyflwr yr adeilad a diffyg cyllid.

Gofynnodd Heledd Fychan wrth yr Ysgrifennydd Diwylliant newydd pa asesiadau mae Cabinet Llywodraeth Cymru wedi’i wneud o’r posibilrwydd y gallai’r amgueddfa gau.

Mae swyddogion Lesley Griffiths yn gweithio gydag Amgueddfa Cymru i ddatblygu cynllun i fynd i’r afael â’r problemau brys gyda’r adeilad, meddai.

“Fe wnes i gyfarfod y prif weithredwr ddoe, wnaeth roi sicrwydd i mi nad oes yna gynlluniau i gau’r amgueddfa,” meddai Lesley Griffiths.

“Fodd bynnag, dw i’n llwyr werthfawrogi difrifoldeb y sefyllfa a’r buddsoddiad sylweddol sydd ei angen.”

‘Dim bygythiadau gwag’

Yn ystod ei sesiwn Cwestiynau’r Prif Weinidog gyntaf wrth y llyw ddoe (Ebrill 16), dywedodd Vaughan Gething mai’r Gwasanaeth Iechyd yw’r flaenoriaeth, a hyd yn hyn dydy’r Prif Weinidog heb gynnig unrhyw gymorth brys i Amgueddfa Cymru.

Dywedodd Heledd Fychan heddiw (Ebrill 17), ei bod hi’n gobeithio y gall pawb yn y Siambr gytuno nad ydyn nhw eisiau gweld yr amgueddfa yn cau.

“Dw i’n gobeithio nawr y byddan ni’n gweld parodrwydd i ganfod datrysiadau,” meddai.

“Ac, fel dw i’n siŵr y gallwch chi werthfawrogi o’ch cyfarfod gyda’r amgueddfa genedlaethol, dydyn nhw ddim yn fygythiadau gwag.

“Mae’n bosibilrwydd real iawn, a rhaid i ni gyd, fel Senedd, wneud popeth yn ein gallu i stopio hynny rhag digwydd i gartref cof ein cenedl.

“Dydy hi ddim yn broblem ymddangosodd dros nos chwaith; rhaid i ni fod yn glir fel Senedd bod yna ôl-groniad o £90m o wariant cyfalaf ei angen i ddod â’n hamgueddfeydd cenedlaethol i’r safon sydd ei angen i ofalu am gasgliadau’n cenedl ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

“Wrth siarad â’r Senedd ddoe a nodi ei flaenoriaethau, fe wnaeth y Prif Weinidog ddefnyddio’r gair ‘dewisiadau’ chwe gwaith, does yna ddim osgoi’r ffaith mai un o’r dewisiadau hynny oedd torri’r hyn oedd yn gyllideb rhy fach, o gymharu ag eraill, yn barod.

“Ac os nad ydy hynny ddigon drwg, roedd yn barod i amddiffyn y penderfyniad.”

‘Pwysig iawn diogelu casgliadau’

Yn ei hymateb pellach, dywedodd Lesley Griffiths y bydd hi’n cyfarfod â chadeirydd a phrif weithredwr yr amgueddfa genedlaethol fory.

“Mae yna gryn dipyn o waith wedi cael ei wneud cyn i fi ddod at y portffolio i edrych ar gyllid penodol ar gyfer yr ychydig flynyddoedd nesaf a helpu i glirio’r ôl-groniad,” meddai, gan ddweud eu bod nhw’n adeiladau hen iawn.

“Dw i’n meddwl ei bod hi’n bwysig iawn fy mod i’n cael sicrwydd gan y prif weithredwr a’r cadeirydd ynglŷn â diogelwch y casgliadau.

“Dw i’n meddwl ein bod ni angen cydnabod sefyllfa’r gyllideb, ac ein bod ni lle’r ydym ni; dydyn ni ond ar ddechrau’r flwyddyn ariannol nawr, ond dw i wedi dweud yn glir fy mod i eisiau parhau i gydweithio’n agos iawn â’r amgueddfa, gyda’r cadeirydd a’r prif weithredwr, i wneud yn siŵr eu bod nhw’n creu cynllun busnes.”

Hoffai weld cynllun busnes erbyn canol fis nesaf, meddai.

“Does gen i ddim cyllideb wych, fel y gwyddoch, ond dw i ddim yn meddwl ei fod yn fater i fi’n unig; dw i’n meddwl ei fod yn fater traws-Lywodraeth, bydd pob Ysgrifennydd Cabinet yn dweud wrthoch, ond dw i’n gwbl glir bod yr adeilad yn eiconig, nid ni sy’n berchen ar y casgliadau, dydyn ni ond yn edrych ar eu holau wrth basio heibio, ac mae’n bwysig iawn ein bod ni’n diogelu nhw, felly dw i’n awyddus iawn i weithio gyda phawb.”

Codi tâl mynediad?

Cafodd ei holi hefyd gan Jane Dodds, Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, a ydyn nhw’n mynd i edrych ar godi cost ar bobol i fynd i’r amgueddfeydd cenedlaethol, sy’n cynnwys Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Amgueddfa Werin Sain Ffagan, yr Amgueddfa Wlân, y Big Pit, yr Amgueddfa Lechi, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

Pwysleisiodd Lesley Griffiths bod Llywodraeth Cymru’n “ymroddedig” i beidio â chodi ffi mynediad.

“Os ydyn ni am ehangu faint sy’n ymweld â’n hadeiladau eiconig a’n amgueddfeydd, mae’n bwysig iawn nad oes ffi.”

Cyhuddo Llywodraeth Cymru o beidio “deall na malio am ddiwylliant”

Elin Wyn Owen

Yn ystod cynhadledd i’r wasg heddiw (dydd Llun, Ebrill 15), ni wnaeth Vaughan Gething gynnig unrhyw gymorth brys i Amgueddfa Cymru