Mae’r angen am weinidog penodol i ogledd Cymru wedi cael ei gwestiynu, a’r rôl wedi’i galw’n un “docenistaidd”.
Pan ddaeth yn Brif Weinidog fis diwethaf, fe wnaeth Vaughan Gething gyhoeddi ei fod wedi penderfynu cadw’r rôl gafodd ei greu gan ei ragflaenydd Mark Drakeford.
Cafodd Ken Skates, Aelod Llafur o’r Senedd dros Dde Clwyd, ei enwi’n Ysgrifennydd Cabinet ar gyfer Gogledd Cymru, ynghyd â chael y cyfrifoldeb dros drafnidiaeth yng nghabinet newydd Vaughan Gething.
Fodd bynnag, mae Llŷr Gruffydd, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd, wedi cwestiynu a ddylai’r rôl fodoli, gan ddweud y dylai gweinidogion gynrychioli Cymru gyfan.
Cododd y mater yn ystod sesiwn Cwestiynau’r Prif Weinidog gyntaf Vaughan Gething.
“O ran parhau rôl y gweinidog ar gyfer gogledd Cymru, gall hwn gael ei weld fel rhywbeth tocenistaidd,” meddai Llŷr Gruffydd, sy’n cynrychioli rhanbarth Gogledd Cymru yn y Senedd.
“Wedi’r cyfan, lle mae eich gweinidog ar gyfer canolbarth Cymru, gorllewin Cymru, a bob man arall?
“Dylai bod pob gweinidog yn eich llywodraeth yn weinidog dros ogledd Cymru, siawns.
“Onid yw eich angen am weinidog i ogledd Cymru’n ddatganiad yn ei hun bod y gweinidogion eraill, o bosib, heb fod yn cynrychioli Cymru gyfan fel y dylen nhw?”
‘Estyn allan’ yn bwrpasol
Dyma’r eildro i Ken Skates gael y portffolio ar gyfer gogledd Cymru, ar ôl iddo wneud y gwaith yn wreiddiol pan gafodd y rôl ei chreu yn 2018.
Dychwelodd i’r meinciau cefn ar ôl etholiad y Senedd yn 2021 am “resymau personol”.
Bu Lesley Griffiths, yr Aelod o’r Senedd dros Wrecsam, yn y rôl wedyn nes fis Mawrth eleni, pan ddaeth yn Ysgrifennydd Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol.
Yn ystod ei ymgyrch, fe wnaeth Vaughan Gething addo rhoi mwy o bwerau i’r gweinidog gogledd Cymru a chreu swyddfa yn yr ardal.
Ailddatganodd ei ymroddiad yn ystod y sesiwn yr wythnos hon i gryfhau’r swydd eto.
“Dw i ddim yn cytuno â hynny o gwbl,” meddai wrth Llŷr Gruffydd.
“Dw i’n meddwl bod rhanddeiliaid ledled gogledd Cymru’n croesawu creu gweinidog i ogledd Cymru ac yn edrych ymlaen at Ken Skates yn parhau â’r gwaith mae Lesley Griffiths wedi bod yn ei wneud.
“Dw i’n edrych ymlaen at weithio gyda Ken a’r gweinidogion eraill yn y llywodraeth, i sicrhau ein bod ni’n cyflawni ar gyfer yr holl wlad.
“Ar yr her i’r gweinidog i ogledd Cymru, roedd yn gydnabyddiaeth fod rhai rhanddeiliaid yn meddwl bod yna her i sicrhau bod yr holl lywodraeth yn gweithredu dros y wlad gyfan.
“Rydyn ni’n gwneud hynny’n bwrpasol, i estyn allan, i wneud yn siŵr bod pobol yn gallu gweld rhywun yn glir sy’n goruchwylio materion y llywodraeth ledled gogledd Cymru.”