Mae Ken Skates, Ysgrifennydd Trafnidiaeth Cymru, wedi addo addasu’r polisi 20m.y.a. yn ôl yr angen.
Daw hyn ar ôl i gynnig gan y Ceidwadwyr Cymreig i ddileu’r polisi’n llwyr gael ei wrthod yn y Senedd.
Yn ôl y blaid honno, mae polisïau trafnidiaeth Llywodraeth Cymru’n dal Cymru’n ôl a dydyn nhw ddim yn addas at eu pwrpas.
Roedden nhw hefyd wedi galw ar Lafur i gefnu ar eu polisi o beidio adeiladu ffyrdd newydd.
Y cynnig
Yn ôl y cynnig gan y Ceidwadwyr Cymreig, mae polisïau trafnidiaeth Cymru’n amlygu’r gwahaniaeth sylweddol rhwng y de a’r gogledd pan ddaw at ariannu cynlluniau.
Mae £50m wedi’i ddyrannu i Fetro Gogledd Cymru, meddai’r blaid, tra bod mwy na £1bn wedi’i neilltuo ar gyfer Metro De Cymru.
Roedd eu cynnig yn galw am adolygiad brys o brofion adeiladu ffyrdd, gyda’r bwriad o droi’n ôl at rai o’r cynlluniau oedd eisoes wedi cael eu rhoi o’r neilltu, ac i fuddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus er mwyn gwneud bysiau a threnau’n fwy cystadleuol â gyrru car.
Ond cafodd y cynnig ei wrthod, wrth i Lafur a Phlaid Cymru bleidleisio yn ei erbyn.
‘Creu newid’
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn cyhuddo’r Llywodraeth Lafur o fod ag “agenda yn erbyn modurwyr”.
“Mae’n glir fod pwysau gan y Ceidwadwyr Cymreig yn creu newid ymhlith Gweinidogion y Llywodraeth Lafur, y mae eu rhethreg ar 20m.y.a. wedi newid yn ddramatig,” meddai Natasha Asghar, llefarydd trafnidiaeth y blaid.
“Mae pobol Cymru eisiau bwrw ymlaen â’u bywydau dydd i ddydd ac mae busnesau eisiau llewyrchu, ond mae diffyg buddsoddiad Llafur mewn trafnidiaeth gyhoeddus, eu gwaharddiad ar adeiladu ffyrdd, a’r terfynau cyflymder 20m.y.a. yn eu harafu nhw wrth wneud yr union beth yma.
“Ond yn y Senedd heddiw, fe wnaeth Llywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru ddangos pa mor bell ohoni maen nhw o ran pobol Cymru, wrth bleidleisio yn erbyn ein cynnig i roi terfyn ar y rhyfel yn erbyn modurwyr, dileu eu gwaharddiad ar adeiladu ffyrdd, a chefnu ar eu terfynau cyflymder 20m.y.a. dadleuol er mwyn cael Cymru i symud eto.”
Terfynau lle bo’u hangen
Yn dilyn y bleidlais, mae Ken Skates wedi pwysleisio bod angen y terfynau cyflymder ger ysgolion, ysbytai a meithrinfeydd, a bod yna “gonsensws” mai dyna’r peth cywir i’w wneud.
“Dw i’n teimlo’n gryf iawn fod yna gefnogaeth ar draws y Siambr i 20m.y.a. yn yr ardaloedd hynny lle mae’n briodol, yn enwedig pan fo plant a’r henoed mewn perygl,” meddai.
“Yn y fath ardaloedd, mae’r cyfan yn gwneud synnwyr, mae’n gwneud i bobol deimlo’n fwy diogel, ond mae angen i ni sicrhau bod 20m.y.a. wedi’i dargedu yn y llefydd hynny y gwnaethon ni addo erioed y byddai’n cael ei dargedu.
“Bydd newidiadau’n cael eu gwneud efo’r gymuned ac ar ran y cymunedau rydyn ni i gyd yn eu gwasanaethu, efo llais dinasyddion wrth galon popeth rydyn ni’n ei wneud.”