Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru’n galw am gymorth i grwpiau cymunedau a chynghorau lleol i gynnal a chadw toiledau cyhoeddus.

Daw hyn yn dilyn pryderon gan Gomisiynydd Pobol Hŷn Cymru y gallai’r sefyllfa bresennololygu nad yw pobol â rhai chyflyrau yn gadael eu cartrefi rhag ofn nad oes cyfleusterau addas na digonol ar eu cyfer.

Wrth drafod y mater yn y Senedd, cyfeiriodd Jane Dodds, arweinydd y blaid, at sefyllfa Rhaeadr Gwy.

Ers iddyn nhw gymryd cyfrifoldeb am eu toiledau cyhoeddus eu hunain ar yr A44 a’r A470 yn 2015, maen nhw wedi’i chael hi’n anodd fforddio’r gwaith cynnal a chadw o ganlyniad i ddiffyg cefnogaeth ariannol.

Yn ôl y blaid, mae toiledau cyhoeddus yn bwysig i drigolion lleol a thwristiaid fel ei gilydd.

‘Hanfodol’

“Mae’r pwysau sy’n cael ei roi ar ein cymunedau bychain i gynnal mynediad at y cyfleusterau sylfaenol hyn yn enfawr, gyda gofyn i drefi a phentrefi ag ychydig o filoedd [o bobol] ariannu cyfleusterau sy’n cael eu defnyddio gan filiynau o bobol bob blwyddyn,” meddai Jane Dodds.

“Y realiti ydy bod toiledau cyhoeddus yn rhannau hanfodol o isadeiledd, nid yn unig i’r miliynau o dwristiaid sy’n ymweld â Chymru, ond hefyd i’r boblogaeth leol.

“Mae’r hawl i gael mynediad at doiledau o safon yn hawl ddynol sylfaenol, ac i nifer o bobol sy’n byw â rhai cyflyrau iechyd, gall hyn olygu’r gwahaniaeth rhwng byw eu bywydau’n rhydd neu gael eu cloi yn eu cartrefi.

“Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gamu i mewn a chefnogi cynghorau lleol a grwpiau cymunedol wrth weithredu a chynnal a chadw toiledau cyhoeddus, er mwyn sicrhau bod gan bobol Cymru fynediad at y cyfleusterau mawr eu hangen hyn.”

‘Penderfyniadau anodd’

“Dw i ddim wedi cynnal unrhyw drafodaethau â’r Ysgrifennydd Cabinet [Julie James] ers ei phenodiad ynghylch arian ar gyfer toiledau cyhoeddus,” meddai Rebecca Evans, Ysgrifennydd Cyllid Cymru.

“Cynnydd cyfartalog arian awdurdodau lleol yn 2024-25 yw 3.3%, a bydd angen i bob un bwyso a mesur cyflwyno gwasanaethau yn erbyn yr arian sydd ar gael.

“Er gwaethaf ein hymdrechion i roi’r setliad gorau posib i awdurdodau, mae’n rhaid iddyn nhw wneud penderfyniadau anodd.

“Hoffwn ymuno â Jane Dodds wrth gydnabod pwysigrwydd argaeledd toiledau cyhoeddus, yn enwedig ar gyfer pobol anabl, pobol hŷn, ond hefyd ar gyfer y bobol hynny sy’n teithio drwy ein hardaloedd gwledig yng Nghymru hefyd.

“Ac yn y cyd-destun hwnnw, mae’n bwysig cydnabod ein bod ni, drwy ein Deddf Iechyd Cyhoeddus (Cymru) 2017, yn gofyn bod awdurdodau lleol yn cynnal ymarfer i gynhyrchu’r strategaethau hynny ar gyfer toiledau cyhoeddus ledled Cymru.

“Rhan o’r nod, mewn gwirionedd, oedd cydnabod fod cyfyngiadau bob amser ar arian cyhoeddus, weithiau’n fwy na’i gilydd, ond gwneud gwell defnydd o’r mathau o ofod cyhoeddus a phreifat sydd ar gael i ni, felly gwneud yn siŵr bod adeiladau cyhoeddus yn agored a chroesawgar, fod pobol yn teimlo’u bod nhw’n gallu dod i mewn, ymgysylltu â chynlluniau lleol, efallai, lle bo’r busnesau hynny’n gwneud eu toiledau ar gael i’r cyhoedd, yn y gobaith, efallai, y bydd yn annog y bobol hynny i siopa yn y llefydd hynny ac ati.

“Felly dw i’n credu bod pethau creadigol yn digwydd ledled Cymru, ond dw i’n credu bod y pwynt ynghylch cefn gwlad yn bwysig iawn.

“Dw i’n gwybod ein bod ni’n siarad llawer am y fformiwla ariannu yma yn y Siambr.

“Nawr bod hynny wedi symud drosodd i’m cydweithiwr, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, dw i’n dal i gymryd diddordeb brwd yn hynny, fel fy nghydweithwyr, a dw i’n ymwybodol fod peth o’r data hynaf o fewn hynny’n ymwneud â dangosyddion sy’n berthnasol i brinder.

” Felly dw i eisiau rhoi gwybod i gydweithwyr fod swyddogion yn cydweithio â’r is-grŵp dosbarthu a’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) ar hyn o bryd i gwblhau’r gwaith angenrheidiol i ddiweddaru’r wybodaeth honno ar gyfer setliadau’r dyfodol. Mae’n bwysig iawn.

“Caiff oddeutu £460m o gyllid mewn perthynas â’r setliad yn cael ei ddosbarthu ar sail y dangosydd prinder, felly mae’n bwysig iawn, ac rydyn ni wedi cael y Cyfrifiad yn ddiweddar, felly rydyn ni’n edrych ar sut y gallwn ni ddiweddaru’r fformiwla o ran hynny.

“Felly bydd hynny’n bwysig iawn wrth symud ymlaen.”