Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi cyhoeddi eu cabinet cysgodol newydd.

Wrth gyhoeddi’r penodiadau ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd yr arweinydd Andrew RT Davies mai bwriad ei gabinet cysgodol yw “cael Cymru’n symud”.

Ategodd e fwriad ei blaid unwaith eto i barhau i bwyso am ddileu “prosiectau gwagedd”, gan gynnwys y terfyn cyflymder 20m.y.a. a 36 yn rhagor o wleidyddion yn y Senedd.

Dywed ei bod hi’n bryd “canolbwyntio ar flaenoriaethau’r bobol”.

Dyma’r cabinet cysgodol yn llawn:

  • Natasha Asghar – Trafnidiaeth
  • Gareth Davies – Iechyd Meddwl a’r Blynyddoedd Cynnar
  • Paul Davies – Gorllewin Cymru (a chadeirydd y Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig)
  • James Evans – Materion Gwledig
  • Janet Finch-Saunders – Newid Hinsawdd (Comisiynydd y Senedd)
  • Peter Fox – Cyllid a Llywodraeth Leol
  • Russell George – Canolbarth Cymru, Dirprwy Chwip (cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol)
  • Tom Giffard – Addysg a’r Gymraeg (Cyd-gadeirydd Pwyllgor Pwrpas Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Senedd Cymru)
  • Dr Altaf Hussain – Gofal Cymdeithasol
  • Mark Isherwood – Cwnsler Cyffredinol cysgodol, Tai a Chynllunio (Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus)
  • Joel James – Partneriaeth Gymdeithasol
  • Laura Anne Jones – Diwylliant, Chwaraeon, Twristiaeth a Chyfiawnder Cymdeithasol
  • Samuel Kurtz – Economi ac Ynni (Cadeirydd y Grŵp Ceidwadol)
  • Darren Millar – Cyfansoddiad a Gogledd Cymru (Prif Chwip a Rheolwr Busnes)
  • Sam Rowlands – Iechyd (Cyfarwyddwr Polisi)

‘Hybu doniau ifainc’

Wrth gyhoeddi ei gabinet cysgodol, mae Andrew RT Davies wedi tynnu sylw at y “doniau ifainc” ymhlith y rhai sydd wedi cael eu penodi.

Dywed eu bod nhw “wedi profi eu hunain i fod yn genhedlaeth nesa’r rhai sy’n torri tir newydd yn y Ceidwadwyr Cymreig”.

“Mae’r tîm newydd hwn yn canolbwyntio fel laser ar weithredu ar sail blaenoriaethau’r bobol, yn wahanol i Lywodraeth Lafur Cymru sy’n canolbwyntio ar brosiectau gwagedd a phethau sy’n tynnu eu sylw maen nhw wedi’u creu eu hunain.”